Neidio i'r prif gynnwy

Ward Anwen

Mae Uned y Fron yn cynnwys Clinig Canolfan y Fron a Ward Anwen. Bydd y staff nyrsio y byddwch yn eu gweld yn gweithio yn y ddau le.

Ymweld

Ar hyn o bryd ni allwn ganiatáu unrhyw ymwelwyr gan fod Ward Anwen o fewn 'Parth Gwyrdd COVID' yr ysbyty. Rhif ffôn Ward Anwen yw 02921 824353.

Cyn Derbyn 

Cyn eich derbyn, byddwch yn cael eich galw am asesiad ymlaen llaw lle bydd eich hanes a'ch manylion yn cael eu cymryd, a bydd unrhyw brofion sydd eu hangen yn cael eu cyflawni neu eu trefnu. Ar hyn o bryd mae hyn yn cael ei wneud yng nghlinig y fron a gall gymryd hyd at 2 awr.

Yn ystod eich arhosiad

Yn ystod eich arhosiad bydd angen y canlynol arnoch:

  • pethau ymolchi,
  • tywel,
  • dillad nos - pyjamas fydd orau gyda thop yn agor ar y blaen,
  • dillad isaf- bra meddal heb weiars,
  • sliperi a gŵn tŷ.

Rydym yn argymell y dylid gadael gemwaith ac unrhyw eitemau gwerthfawr eraill gartref, neu eu hanfon adref gyda pherthnasau.

Mynd Adref

Gwnewch yn siŵr fod gennych gyflenwad o barasetamol ar gyfer cael eich rhyddhau. Mae'r rhan fwyaf o gleifion fel arfer yn cael eu rhyddhau y diwrnod ar ôl llawdriniaeth, ond weithiau ar yr un diwrnod yn dibynnu ar y llawdriniaeth. Pan fyddwch yn barod i fynd adref byddwch yn cael llythyr ar gyfer y Nyrs Ardal (os oes angen), dresins ac apwyntiad claf allanol. Os oes angen tystysgrif salwch arnoch ar gyfer eich cyflogwr, rhowch wybod i'r staff.

Ein nod yw gwneud eich arhosiad mor gyfforddus â phosibl. Os nad ydych yn fodlon ag unrhyw agwedd ar eich gofal neu'r cyfleusterau a ddarperir, tynnwch sylw'r staff a fydd yn falch i'ch helpu.

Dilynwch ni