Neidio i'r prif gynnwy

Proses Atgyfeirio Gofal Sylfaenol

Rydym yn ymdrin yn bennaf ag atgyfeiriadau brys lle yr amheuir canserau (USC) lle mae arwyddion a symptomau gynaecolegol amheus. Rydym yn ceisio gweld ein cleifion USC o fewn 2 wythnos o'u hatgyfeirio, a dylai pob atgyfeiriad ddod trwy'r ganolfan atgyfeirio canser (CRC). Ar ôl derbyn yr atgyfeiriad, byddwn yn brysbennu'r claf er mwyn iddo gael ei weld mewn naill ai clinig mynediad cyflym, neu gael ei israddio i atgyfeiriad nad yw'n USC. Dyma'r clinigau mynediad cyflym gynaecoleg:-

  • Clinig Màs Pelfig (bob yn ail fore dydd Gwener yn Ysbyty'r Barri)
  • Clinig Gwaedu ar Ôl y Menopos (a arweinir gan nyrs) bob dydd Llun - Ysbyty Athrofaol Cymru)
  • Clinig mynediad cyflym gynaeoncoleg (clinig ar y cyd a arweinir gan ymgynghorydd - Ysbyty Athrofaol Cymru bob bore dydd Mercher)
Byddwn yn cysylltu â'r claf yn uniongyrchol i drefnu'r apwyntiad. Gan fod y clinigau hyn yn brysur iawn, dywedwch wrth eich cleifion 
 
  • Fod rhaid iddynt wneud eu gorau glas i fynychu oni bai bod amgylchiadau esgusodol.
  • Efallai y bydd rhaid iddynt aros ychydig yn hwy yn y clinig gan fod niferoedd y clinig yn amrywio yn dibynnu ar y galw.