Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys Arbenigol

Mae ein Nyrsys Arbenigol hefyd yn gweithredu fel ein Hymarferwyr Nyrsio sy'n rheoli ein clinigau cyn-derbyn. Mae eu rôl ddeuol yn gweithio'n dda i baratoi cleifion ar gyfer eu llawdriniaeth a hefyd i roi unrhyw gymorth sy'n angenrheidiol. Mae eu rhifau cyswllt ar gael ar y dudalen Ein Nyrsys Arbenigol.

Bydd y Nyrsys Arbenigol ar gael yn ystod y clinig Oncoleg. Byddwch hefyd yn cyfarfod â nhw os bydd arnoch angen llawdriniaeth yn rhan o'ch apwyntiad cyn-asesu. Efallai byddant yn dod yn "weithiwr allweddol" i chi, sef eich prif bwynt cyswllt pan fyddwch yn wynebu diagnosis o ganser. Os bydd gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â nhw trwy eu teclynnau galw a byddant yn hapus i drafod eich pryderon. Gallant hefyd eich cyfeirio at feysydd eraill os bydd arnoch angen cymorth gwahanol. Mae gan y tîm nyrsio gysylltiadau cryf â Macmillan a Tenovus, sy'n gallu cynnig cymorth, gan gynnwys cyngor ariannol/budd-daliadau.