Neidio i'r prif gynnwy

Cynlluniau Peilot / Datblygiadau Newydd

Rydym bellach wedi symud i safle newydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Adferiad Gwell ar Ôl Llawdriniaeth (ERAS)

Mae hyn wedi cael ei dreialu'n llwyddiannus ers 2 Ionawr 2013 gyda'n holl gleifion sy'n cael llawdriniaeth abdomenol fawr (laparosgopegol ac agored). Mae'r rhaglen yn cael ei hariannu'n llawn bellach ac wedi bod yn rhan o'n harferion adrannol ers mis Gorffennaf 2013. Ar hyn o bryd, ni yw'r unig uned lawdriniaethol gynaeoncolegol yng Nghymru sy'n defnyddio'r rhaglen arloesol hon. Yng Nghymru, mae adran y colon a'r rhefr eisoes wedi gweithredu'r rhaglen yn llwyddiannus iawn ac wedi ennill gwobrau cenedlaethol am ei gwaith.
Nod y rhaglen yw sicrhau bod cleifion yn cael eu hoptimeiddio cyn, yn ystod ac ar ôl eu llawdriniaeth i ganiatáu'r canlyniad gorau iddynt. Dyma rai o'r ffyrdd arloesol y mae hyn yn cael ei wneud:-
  • Diodydd cyn-lawdriniaethol
  • Dewis dulliau anesthetig a lleddfu poen yn ofalus
  • Llai o ddefnydd o ddraeniau a thiwbiau nasogastrig
  • Bwydo'n fuan ar ôl llawdriniaeth
  • Symud yn fuan ar ôl llawdriniaeth
Pan fyddwch yn dod i gael llawdriniaeth, byddwch yn cael asesiad cyn-lawdriniaethol gyda'n Nyrs Ganser Arbenigol a fydd yn mynd trwy'r rhaglen yn fanylach. Rhoddwyd y rhaglen ar waith trwy waith caled Non Phillips, ein Nyrs Ganser Arbenigol arweiniol.
Rydym wedi cynnal arolwg o'n cleifion sydd wedi bod trwy'r rhaglen ac mae pob un wedi rhoi ymateb cadarnhaol am eu profiadau. Maen nhw wedi dweud wrthym ble y gellid gwneud gwelliannau o hyd ac rydym yn gweithio i wella'r meysydd hynny.
I ddarllen mwy am y rhaglen, cliciwch ar y ddolen ganlynol i Sefydliad Arloesi a Gwella'r GIG (ERAS y GIG)


Cynlluniau Peilot

Gwaith Dilynol wedi'i Sbarduno gan Symptomau
Rydym wrthi'n gweithredu'r strategaeth ddilynol arloesol hon a fydd yn cynnwys cleifion â chanser endometriaidd cam cynnar. Mae'r rhaglen beilot gychwynnol wedi bod ar waith ers mis Ionawr 2014 gyda chymorth Adran Gwella Gwasanaethau'n Barhaus y Bwrdd Iechyd Prifysgol. Mae'r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn hyd yma.