Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â Chanolfan y Fron

Mae Canolfan y Fron Caerdydd wedi bod yn weithredol yn Ysbyty Athrofaol Llandochau (YALl), ers mis Hydref 2010. 

Mae ein cyfleusterau a godwyd yn bwrpasol yn cael eu defnyddio gan gleifion â phroblemau'r fron yn unig. Mae ystafell cleifion allanol fawr gyda deg ystafell archwilio, tair ystafell famograffi a dwy ystafell ar gyfer arhchwiliadau uwchsain.

Mae ystafelloedd i'r tîm weithio ynddynt wrth gynnal clinigau cleifion allanol, ystafell ganolog adrodd ar radioleg, ystafell driniaeth, dwy ystafell gwnsela ac ystafell ffitio ar gyfer bronnau gosod. 

Bydd menywod dros 40 oed sy’n cael eu hatgyfeirio atom ac sydd heb gael mamogram yn ddiweddar, yn cael eu gwahodd am famogram cyn eu hapwyntiad clinig.

Bydd angen i bob claf fynychu apwyntiad clinig cleifion allanol o hyd, ac fel arfer gellir gwneud unrhyw brofion eraill sydd eu hangen, megis uwchsain a biopsïau, yn ystod yr un ymweliad.

Ar lawr cyntaf y cyfleuster mae swyddfeydd ar gyfer yr holl staff, meddygon ymgynghorol, nyrsys gofal y fron, ysgrifenyddion a staff iau ac ystafell gyfarfod tîm amlddisgyblaethol llawn cyfarpar.

Mae tîm y fron hefyd yn ffodus i gael ward bwrpasol ar gyfer 'cleifion mewnol', Ward Anwen, sydd â 14 o welyau ar gael o fore Llun tan haner dydd ddydd Sadwrn.

Mae presenoldeb y cyfleusterau hyn wedi arwain at welliant sylweddol yn y gwasanaeth y gallwn ei ddarparu, ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym hefyd wedi gweld cynnydd yn y llwyth gwaith.

Defnyddir Canolfan y Fron yn helaeth drwy gydol yr wythnos ar gyfer clinigau, triniaethau diagnostig fel mamogramau a biopsïau, cyfarfodydd rhwng cleifion a Nyrsys Gofal y Fron, sesiynau therapi cyflenwol a chwnsela.  Adroddir lefel uchel o foddhad gan y cleifion sy'n mynychu Canolfan y Fron.

Dilynwch ni