Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Atgyweirio Cymorth Clyw

Diweddariad COVID-19

Yn unol â chyfyngiadau cyfredol COVID-19 ni allwn redeg gwasanaeth atgyweirio cerdded i mewn, yn Ysbyty Athrofaol Cymru neu Ganolfan Feddygol West Quay.

Os oes angen atgyweirio eich cymorth clyw, cysylltwch â ni gan ddefnyddio ein manylion cyswllt isod i gael eich brysbennu, neu postiwch eich cymorth clyw atom i'w atgyweirio.

Rhoi gwasanaeth i'ch cymorth clyw

Dylai eich cymorth clyw gael ei wasanaethu bob 6 mis er mwyn cynnal ansawdd y sain. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwasanaethu eich cymorth clyw eich hun, cysylltwch â'n hadran i drefnu i diwbiau gael eu postio atoch.

Gweler ein canllawiau Aildiwbio ar gyfer Mowldiau Clust ac Aildiwbio ar gyfer Tiwbiau Tenau am ragor o wybodaeth. Efallai y bydd y fideos canlynol yn ddefnyddiol i chi hefyd:

Os ydych chi'n cael problemau gyda'ch cymorth clyw, efallai y byddwch chi'n gallu eu datrys yn hawdd gartref. Gweler ein canllaw datrys problemau ar gyfer mowldiau clust a chanllaw datrys problemau ar gyfer tiwbiau tenau i ddarganfod mwy.

Gwasanaethau Post

Amgaewch y cymorth clyw a disgrifiad byr o'r broblem, ynghyd â'r cymorth clyw, eich enw a'ch dyddiad geni. Bydd yn cael ei wasanaethu cyn gynted â phosibl a'i ddychwelyd trwy bost ail ddosbarth ysbyty, heb unrhyw gost ychwanegol. Os hoffech i’ch cymorth clyw gael ei ddychwelyd dosbarth cyntaf, amgaewch bum stamp dosbarth cyntaf wrth bostio’ch cymhorthion clyw.

Batris

Darperir yr holl fatris yn rhad ac am ddim bob blwyddyn. Anfonwch e-bost neu ffoniwch ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt canlynol i ofyn i fatris gael eu postio atoch.

Er mwyn lleihau'r ôl troed carbon, gwnewch yn siŵr eich bod yn ailgylchu eich batris yn eich canolfannau ailgylchu neu archfarchnadoedd lleol. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ailgylchu eich batris, gweler 'Ailgylchu mewn Awdioleg' .

Manylion cyswllt yr adran

  • Ffôn: 02921 843179
  • Symudol: 07805670359 (testun yn unig)
  • E-bost: Audiology.Helpline.CAV@wales.nhs.uk
  • Cyfeiriad: Clinig Awdioleg, Clinig 9, Adran Cleifion Allanol, Ysbyty Athrofaol Cymru, Ffordd Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XW

Sylwch: Mae ein clinig trwsio cerdded i mewn ar gau ar hyn o bryd. Cysylltwch â'r adran neu postiwch atgyweiriadau i'r cyfeiriad uchod.