Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Cadair Olwyn

Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd

Mae'r Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd yn asesu ac yn darparu cadeiriau olwyn â llaw a chadeiriau olwyn modur ar draws Cymru.  Mae'r gwasanaeth yn darparu, casglu, atgyweirio a chynnal a chadw offer cadair olwyn.  Yn Ne Cymru mae tua 45,000 o ddefnyddwyr hirdymor sydd angen offer cadair olwyn a seddi hanfodol yn amrywio o fater syml i asesiad unigol ar gyfer cadeiriau olwyn arbenigol a modur, gan gynnwys seddi arbennig.
 

Adnabod Hen Gadeiriau Olwyn/Rhai Nad Oes eu Heisiau

Mae'r gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd yng Nghymru yn colli 100 o gadeiriau olwyn â llaw a rhai modur bob blwyddyn, yn bennaf oherwydd bod teuluoedd yn ansicr ble roedd eu perthnasau wedi cael gafael arnynt yn lle cyntaf. Gweler y daflen amgaeedig ar gyfer De Cymru a fydd yn eich helpu i weld a yw'r offer yn perthyn i ni a sut y gallwch drefnu casglu.

Rhaglen Hyfforddi Atgyfeirwyr – Referral Training Program

Rydym yn cynnal cyrsiau sy’n caniatáu i weithwyr iechyd proffesiynol sy’n atgyfeirio cleifion i’r Gwasanaeth Cadeiriau Olwyn yng Nghymru wella ansawdd y wybodaeth y maent yn ei darparu i ni. Os hoffech ragor o wybodaeth, neu os hoffech fynychu cwrs, ewch i’r adran Hyfforddiant Atgyfeirwyr ar y wefan.

Mesur Cleientiaid ar gyfer cadeiriau olwyn

Yma ceir set o fideos sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i fesur eich cleientiaid ar gyfer cadeiriau olwyn.

Canllaw Diogelwch Defnyddwyr Cadair Olwyn

Nod y Canllaw Diogelwch Defnyddwyr Cadair Olwyn yw ymdrin â chyfarwyddiadau diogelwch a chyfarwyddiadau i ddefnyddwyr sy'n gyffredin i bob math o gadeiriau olwyn â llaw a rhai modur a ddarperir gan y Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd. I gael gwybodaeth benodol am eich cadair olwyn, cyfeiriwch at y Llawlyfr Perchennog a ddarperir gyda'ch cadair, neu holwch eich therapydd a fydd yn eich helpu gyda'ch anghenion unigol.

 

Polisi Comisiynu WHSSC: CP59 – Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd Cymru Gyfan
 

Sut i gysylltu â'r Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd – How to contact the Posture and Mobility Service

I gysylltu â'r Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd, ffoniwch y gwasanaeth agosaf atoch chi:

ALAS Caerdydd: 02921 848100 Opsiwn 1 – Gwasanaeth Cadeiriau Olwyn (Ystum Corff a Symudedd)

ALAS Wrecsam: 03000 850055

Abertawe 01792 703015

* Mae'r Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd yn cynnwys Seddi Arbenigol, ac eithrio yn Abertawe

Dilynwch ni