Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw FH?

Hypercholesterolaemia Teuluol (FH) yw'r enw meddygol ar gyflwr etifeddol penodol sy'n effeithio ar oddeutu 1 o bob 500 o bobl. Mae 'teuluol' yn golygu ei fod yn cael ei etifeddu trwy deuluoedd. ‘Hypercholesterolaemia’ yw'r term meddygol am golesterol gwaed uchel - mae 'hyper' yn golygu uwch ac mae 'aemia' yn golygu yn y gwaed.

Y sail feddygol ar gyfer FH

Mae FH yn cael ei achosi gan gynnydd mewn Colesterol Lipoprotein Dwysedd Isel (LDL-C) neu golesterol 'gwael' yn y gwaed. Mae LDL-C yn cael ei dynnu allan o'r gwaed yn ddiogel gan "dderbynyddion" sy'n glynu wrtho ac yn mynd ag ef allan o lif y gwaed. Ond, mae gan bobl sydd ag FH lai o'r "derbynyddion" hyn, sy'n arwain at lefelau uwch o LDL-C yn y gwaed. Mae gan bobl sydd ag FH oddeutu dwywaith yn fwy na'r lefel arferol o golesterol yn eu gwaed.

 

Diagram for What is FH?
 

FH a Chlefyd Coronaidd y Galon


Os na fydd pobl sydd ag FH yn cael triniaeth, byddant mewn perygl uwch o lawer (tua 8 gwaith yn uwch) o gael clefyd coronaidd y galon (CHD). Gall colesterol ffurfio yn rhydwelïau coronaidd y galon, gan achosi angina neu drawiadau ar y galon. Ffactorau eraill sy'n cynyddu'r perygl o CHD yw ysmygu a phwysedd gwaed uchel. Fodd bynnag, mae FH yn gyflwr y gellir ei drin a'i reoli gan ddefnyddio cyffuriau sy'n lleihau colesterol a dilyn ffordd iach o fyw.

Rydym yn gwybod bellach bod pobl sydd ag FH sy'n cael triniaeth yn gallu disgwyl byw yr un mor hir â'r boblogaeth gyffredinol. Felly, mae'n hollbwysig gwneud diagnosis o'r cyflwr yn gynnar, fel y gellir dechrau'r driniaeth iawn ac atal trawiadau ar y galon.

Mae'r holl wybodaeth hon a mwy ar gael yn ein taflen Gwybodaeth i Gleifion am FH.

Dilynwch ni