Neidio i'r prif gynnwy

Triniaeth ar gyfer FH - Cwestiynau Cyffredin

Lluniwyd y Cwestiynau Cyffredin hyn gan ymgynghorwyr clinigol Lipidau a nyrsys arbenigol FH sy'n gweithio yng ngwasanaeth FH Cymru. Gallai rhai o'r atebion newid wrth i dystiolaeth ymchwil newydd ddod ar gael, felly dylech drafod unrhyw bryderon sydd gennych gyda'ch meddyg eich hun hefyd.

Beth yw nodau'r driniaeth ar gyfer FH?

Y nod yw lleihau'r perygl o glefyd cardiofasgwlaidd trwy
1.    Leihau colesterol LDL
2.    Osgoi perygl ychwanegol yn sgil ysmygu
3.    Gwella ffactorau ffordd o fyw a deietegol er mwyn cael calon iach.

A oes modd rheoli colesterol gwaed pobl sydd ag FH heb feddyginiaeth?

Nac oes, bron yn ddieithriad. Mae FH yn newid "mewnol" yn y ffordd y mae'r corff yn trin colesterol ac nid yw'n cael ei achosi gan ddeiet neu ffordd o fyw. Felly, bydd angen i bron pob unigolyn sydd ag FH gael meddyginiaeth, a bydd deiet yn cael effaith fach yn unig ar golesterol y gwaed.

Wedi dweud hynny, bydd deiet iach yn helpu i gadw'r galon yn iach mewn llawer o ffyrdd eraill, nad yw'r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu mesur trwy brawf gwaed.

Pa mor bwysig yw rhoi'r gorau i ysmygu?

Mae'n bwysig iawn. Mae ysmygwyr bron teirgwaith yn fwy tebygol o gael clefyd y galon cynnar, a phan fydd FH yn cael ei ychwanegu, mae hyn yn gyfuniad peryglus iawn.

Pa mor effeithiol yw statinau o ran lleihau'r perygl o glefyd y galon cynnar?

Mae statinau'n effeithiol iawn. Mae arsylwadau o waith ymchwil ym Mhrydain a'r Iseldiroedd yn awgrymu bod unigolion ag FH sy'n cael eu trin yn effeithiol â statinau yn adfer eu disgwyliad oes i'r un lefel â'r boblogaeth gyffredinol, yn ôl pob tebyg.  

Pa mor isel y dylwn i geisio cael fy ngholesterol wrth gael triniaeth?

Mae canllawiau NICE yn cynghori bod y targed ar gyfer colesterol LDL mewn oedolion yn fwy na 50% o'r man cychwyn. Ond mae angen addasu'r ffigur hwn yn ôl amgylchiadau clinigol unigol a dylech ymgynghori â'ch meddyg, sy'n arbenigwr ar lipidau yn ddelfrydol, i drafod eich gofynion penodol chi.  

Mae canllawiau NICE yn cynghori statin "Dwysedd Uchel" - beth mae hynny'n ei olygu?

Mae hyn yn golygu bod y statinau cryfach, yn enwedig atorvastatin a rosuvastatin, yn angenrheidiol ac yn cael eu dynodi'n glinigol yn aml mewn FH. Gallai statinau dwysedd is, e.e. simvastatin a pravastatin, fod yn effeithiol mewn rhai pobl, ond nid ydynt fel arfer yn lleihau colesterol digon i gyrraedd gwerthoedd targed NICE.

Beth am Ezetimibe (Ezetrol)?

Gallai hyn fod yn angenrheidiol ar gyfer pobl sydd ag FH mewn cyfuniad â statin. Nid yw'r dystiolaeth ei fod yn atal trawiadau ar y galon mor eglur ag ar gyfer statinau. Ond mae'n dda am leihau colesterol LDL pan gaiff ei gyfuno â statin a dyma'r broblem benodol mewn FH.

A ddylwn i boeni am ddiogelwch statinau?

Mae hanes diogelwch statinau yn dda iawn. Ymchwiliwyd yn helaeth i statinau mewn llawer o astudiaethau gyda niferoedd mawr o gleifion. O ran FH, mae buddion therapi statinau yn sylweddol fwy nag unrhyw bryderon diogelwch. Ond dylech ddarllen y taflenni gwybodaeth i gleifion a thrafod unrhyw bryderon a allai fod gennych gyda'ch meddyg.

Beth am sgil-effeithiau statinau?

Mae mwy na 90% o'r bobl sy'n cymryd statinau yn eu goddef yn dda. Dylech ddarllen y rhestr o sgil-effeithiau posibl ar y daflen gwybodaeth i gleifion, ond cofiwch fod y rhan fwyaf o'r rhain yn digwydd mewn nifer fach iawn o gleifion yn unig. Mae rhai pobl yn cael sgil-effeithiau, a'r un mwyaf cyffredin yw poen yn y cyhyrau.
 

Beth os caf i boen yn fy nghyhyrau?

Os yw'r boen yn para am fwy nag ychydig ddiwrnodau, ac yn digwydd trwy'ch corff i gyd (rhywbeth tebyg i gael y ffliw), mae'n syniad da cael prawf gwaed am farciwr llid y cyhyrau (creatin cinas) tra byddwch yn cymryd y tabledi. Yn dibynnu ar ba mor drafferthus yw'ch symptomau, fe allech ddymuno rhoi'r gorau i gymryd y tabledi i weld a fydd y symptomau'n gwella. Mae'n well cael prawf gwaed cyn rhoi'r gorau i gymryd y tabledi oherwydd gall y gwaed ddychwelyd i lefel normal o fewn ychydig ddiwrnodau, sy'n golygu ei bod yn anodd gwybod ai'r tabledi oedd ar fai os oeddech eisoes wedi rhoi'r gorau i'w cymryd. Weithiau, mae'n anodd gwybod ai statinau sy'n gyfrifol am boen yn y cyhyrau, oherwydd gall hynny ddigwydd am resymau eraill. Hefyd, gall y prawf gwaed ar gyfer creatin cinas fod yn uwch mewn rhai unigolion am resymau eraill, a'r mwyaf cyffredin o'r rhain yw ymarfer corff yn ddiweddar. Felly, mae'n bwysig bod eich sefyllfa'n cael ei hadolygu'n ofalus gan feddyg sydd â phrofiad arbenigol o ofalu am bobl sy'n cael triniaeth gyda statinau (ymgynghorydd clinig lipidau, fel arfer).
 

Ar ba oedran y dylai plant sydd ag FH gael triniaeth gyda statinau?

O 10 oed a hŷn yn gyffredinol, er y gallai'r driniaeth weithiau gael ei dechrau'n gynharach neu ei hoedi dan oruchwyliaeth arbenigol, yn dibynnu ar amgylchiadau unigol.

A yw statinau'n ddiogel yn ystod beichiogrwydd?

Nid yw statinau'n cael eu hystyried yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd a dylid cymryd rhagofalon atal cenhedlu effeithiol. Gweler tudalen ar wahân ar statinau a beichiogrwydd.

Beth am secwestryddion asid bustlog?

Mae'r meddyginiaethau hyn (Colestipol, Cholestyramine a Colesevelam) yn gweithio yn y coluddyn (y perfeddyn) i atal amsugno asidau bustlog sydd wedi'u gwneud o golesterol. Maen nhw wedi'u dynodi ar gyfer FH ac yn ddiogel iawn yn gyffredinol, ond maen nhw'n aml yn arwain at sgil-effeithiau gastroberfeddol trafferthus, felly maen nhw bellach yn cael eu hystyried yn ail neu'n drydydd ar ôl statinau.
 

 

The aim is reduced the risk of cardiovascular disease by

1.    Lowering LDL cholesterol
2.    Avoiding additional risk from smoking
3.    Enhancing lifestyle and dietary factors for a healthy heart.

 

 

Almost always not. 

FH is an “inbuilt” change in cholesterol handling by the body and is not caused by diet or lifestyle. 

Therefore almost all individuals with FH will need medication and diet will have only a small effect on blood cholesterol

Having said that, a healthy diet will help keep the heart healthy in many other ways, most of which are not measured on a blood test.

 

Very important. 

Smokers approximately treble their risk of early heart disease and when combined with FH this is a very risky combination.

 

 

Statins are very effective.

Observations from research in Britain and Holland suggest that individuals with FH who are effectively treated with statins probably restore life expectancy to that of the general population.  

 

NICE guidance advises that the target for LDL cholesterol is more than 50% from starting point. 

However this figure needs to be adjusted according to individual clinical circumstances and you should consult your doctor, preferably a lipid specialist to discuss your own particular requirements.  

 

This means that the more potent statins, particularly atorvastatin and rosuvastatin are often needed and clinically indicated in FH. 

Lower intensity statins e.g. simvastatin and pravastatin may be effective in some people but usually do not lower cholesterol sufficiently to reach the NICE target values.

 

 

 

This may be indicated in people with FH in combination with a statin.  The evidence that it prevents heart attacks is not as clear as for statins.  However it is good at lowering LDL cholesterol when combined with a statin and this the specific problem in FH.

 

The safety record of statins is very good.

Statins have been extensively researched in many studies with large numbers of patients.  In FH the benefits or statin therapy generally substantially outweigh any safety concerns.  However you should read the patient information leaflets and discuss any concerns you may have with your doctor.

 

Statins are well tolerated in more than 90% of people who take them.  You should check the list of possible side effects on the patient information leaflet, but be aware that most of these only occur in a very small proportion of patients.  Side effects do occur in a few people of which the most common is aches and pains in the muscles.

If the pains persist for more than a few days, and are generalised (a bit like having flu), it is usually a good idea to have your blood tested for a marker of muscle inflammation (creatine kinase) while you are still taking the tablets.  Depending on how troublesome your symptoms are you may wish to stop the tablets to see if symptoms improve.  It is best to have your blood checked before you stop the tablets because the blood test can return to normal within a few days, making it difficult to work out if it was indeed the cause if you had stopped the tablets already..  Sometimes it is difficult to work out if muscle aches are due to statins, because these can occur for other reasons.  Also the blood test for creatine kinase can be raised in some individuals for other reasons most commonly recent exercise.  Therefore it is important that your situation is carefully reviewed by a doctor who has specialist experience in looking after people on treatment with statins (usually a lipid clinic consultant).

 

Generally from age 10 years onwards though under specialist supervision treatment can sometimes be started earlier or delayed, depending on individual circumstances.

 

Statins are not regarded as safe in pregnancy and effective contraceptive precautions should be taken.  Please see a separate page on statins and pregnancy.

 

These medications (Colestipol, Cholestyramine and Colesevelam) work in the intestine (gut) to prevent uptake of bile acids which are made from cholesterol.  They are indicated for FH and generally very safe, but often have troublesome gastro intestinal side effects, so are now generally second or third line after statins.
 

Dilynwch ni