Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor ar Ffordd o Fyw

Deiet

Argymhellir bwyta deiet iach a chytbwys ac yfed alcohol yn gymedrol yn unig, fel yr argymhellir ar gyfer gweddill y boblogaeth gyffredinol.

Mae Heart UK a Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF) yn elusennau sy'n cynorthwyo pobl sydd â phroblemau'r galon a cholesterol uchel. Maen nhw wedi datblygu llawer o adnoddau i'ch helpu i gynnal deiet iach a chytbwys. Rhoddir isod nifer o adnoddau sy'n darparu gwybodaeth ddefnyddiol.

Heart UK Adnoddau Byw'n Iach
BHF Lleihau eich colesterol gwaed
Y GIG Canllaw bwyta'n iach - Y plât bwyta'n dda
Drinkaware Effeithiau alcohol ar iechyd

Ysmygu

Mae'n arbennig o bwysig i rywun sydd ag FH neu yr amheuir bod ganddo FH beidio ag ysmygu, oherwydd bod y rhai hynny sy'n ysmygu mewn perygl uwch o ddatblygu problemau â'r galon.

Gallwch gael cymorth i roi'r gorau i ysmygu gan yr adnoddau canlynol neu drwy ymweld â'ch meddyg teulu.

Cymru Helpa Fi i Stopio
Y Deyrnas Unedig Smokefree
Yr Alban Can Stop Smoking
Gogledd Iwerddon Want 2 Stop
Iwerddon Quit

Ymarfer corff

Mae aros mor egnïol â phosibl yn gwella eich lefelau colesterol ac yn lleihau eich pwysedd gwaed a'ch pwysau. Mae'r rhain i gyd yn ffactorau risg ar gyfer datblygu clefyd y galon.

Mae canllawiau cenedlaethol ar weithgarwch ar gael i bobl sy'n ceisio gwella eu ffitrwydd:

  • Plant iau na 5 oed
  • Pobl Ifanc
  • Oedolion
  • Oedolion Hŷn

 

Dilynwch ni