Neidio i'r prif gynnwy

Dolenni Gwybodaeth FH

Rhoddir isod nifer o ddolenni i adnoddau a gwybodaeth am FH.

Elusennau sy'n ymwneud ag FH

 
Elusen gardiaidd fawr yn y Deyrnas Unedig. Mae'r BHF yn bartner yng Ngwasanaeth FH Cymru, gan gefnogi nyrsys arbenigol FH yn benodol. Mae'r BHF hefyd yn darparu gwybodaeth benodol am FH.
 
Mae hyn yn cynnwys llyfryn gwybodaeth i gleifion FH manwl.
 
Mae gwefan y BHF hefyd yn cynnwys stori un o gleifion FH Cymru, sef Suzanne Sheppard.
 
Elusen genedlaethol i gleifion a'u teuluoedd sydd â diddordeb penodol mewn FH. Sefydliad ar gyfer cleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol yw hwn.
 
 
Crëwyd ymgyrch 'Calon y Teulu' / 'Heart of the Family' HEART UK i gynyddu ymwybyddiaeth o FH a sgrinio'n gynnar ar gyfer FH oherwydd bod gwneud diagnosis a rhoi triniaeth yn gynnar yn gallu helpu i achub bywydau a thorri cylchoedd teuluol o glefyd y galon cyn pryd. Mae'r ymgyrch yn cynnwys straeon pedwar unigolyn ysbrydoledig sy'n byw gydag FH.

Facebook

 
Dilynwch ni ar Facebook
Neu chwiliwch am 'FH' yn fyr a 'hoffwch' y dudalen i gael gwybod am y newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf.

Gweithwyr Iechyd Proffesiynol

 
Ym mis Awst 2008, cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) ganllaw clinigol (CG71) ar gyfer FH. Mae'r canllaw'n cynnwys argymhellion ar gyfer adnabod a rheoli FH mewn oedolion a phlant/pobl ifanc. NICE yw'r sefydliad annibynnol sy'n gyfrifol am roi arweiniad cenedlaethol ar hybu iechyd da ac atal a thrin iechyd gwael.
 
Mae'n darparu sylfaen dystiolaeth drylwyr, wedi'i seilio ar ddadansoddiad clinigol ac economaidd. Adolygwyd canllaw NICE yn 2011 ac fe'i hailgyhoeddwyd gyda mân ddiweddariadau oherwydd ystyriwyd ei fod yn ddilys ac yn addas i'r diben o hyd.
 
Roedd y wefan yn cynnwys y canllawiau llawn ond hefyd crynodebau byr a mwy darllenadwy. Yng Nghymru, mae'r GIG wedi bod yn ymrwymedig i weithredu'r canllawiau FH.
 
Mae NICE hefyd wedi paratoi "Safon Ansawdd" ar gyfer FH wedi'i seilio ar ganllawiau clinigol llawn NICE. Mae'r safon ansawdd yn fersiwn "gryno" iawn o'r prif ganllawiau, a luniwyd i grynhoi'r elfennau allweddol y mae angen eu comisiynu er mwyn i wasanaeth FH gael ei weithredu.
 
Cynhaliodd Coleg Brenhinol y Meddygon archwiliad o weithredu canllawiau FH NICE yn 2010. Fe'i cynhaliwyd, i raddau helaeth, cyn i wasanaeth FH Cymru gael ei weithredu'n llawn.
 
Cronfa ddata ryngwladol yw hon o amrywiolion DNA y disgrifiwyd eu bod yn achosi FH neu efallai'n ei achosi. Mae'n bennaf at ddefnydd arbenigwyr labordy sy'n cynnal profion diagnostig DNA. Mae'r holl wybodaeth yn y gronfa ddata hon yn ddienw ac yn helpu i rannu arbenigedd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol er mwyn cael dealltwriaeth well o'r gwahanol newidiadau DNA sy'n gysylltiedig ag FH.
 
Sefydlwyd Rhwydweithiau Cardiaidd Cymru ym mis Medi 2002 i ddatblygu'r broses o weithredu'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Clefyd Coronaidd y Galon. Cafodd Grŵp Cydlynu cyffredinol y Rhwydweithiau Cardiaidd ei ddirwyn i ben yn 2012, ac fe'i cyflawnir bellach gan rwydwaith cardiaidd ar gyfer Gogledd CymruDe Cymru.
 
Parc "rhithwir" yw Parc Genynnau Cymru sy'n dwyn ynghyd arbenigwyr ar geneteg yng Nghymru i hwyluso'r broses o drosglwyddo gwybodaeth o waith ymchwil Prifysgol i'r GIG a sectorau masnachol. Mae ganddo raglenni gweithredol mewn addysg broffesiynol a chynnwys y cyhoedd. Mae Parc Genynnau Cymru, trwy Brifysgol Caerdydd, wedi bod yn weithgar wrth gefnogi'r gwaith datblygu ar gyfer gwasanaeth FH Cymru, y systemau TG, a hefyd wedi cefnogi'r broses o sefydlu fforwm teuluoedd FH Cymru trwy'r Gynghrair Genetig.
 
Mae'r Gynghrair Genetig (y Grŵp Diddordeb Genetig gynt) yn gynghrair genedlaethol o sefydliadau cleifion y mae ei haelodau'n cynnwys mwy na 130 o elusennau sy'n cynorthwyo plant, teuluoedd ac unigolion y mae anhwylderau genetig yn effeithio arnynt.
Roedd yr elusen, gan weithio gyda Pharc Genynnau Cymru, yn gefnogol iawn o ddatblygiad cychwynnol Fforwm Teuluoedd FH Cymru yn 2006-2008.    
Dilynwch ni