Neidio i'r prif gynnwy

Absenoldeb Astudio

Rheolir Absenoldeb Astudio yn unol â pholisi HEIW Cymru gyfan

Gan y gall dyraniad Absenoldeb Astudio amrywio o flwyddyn i flwyddyn, rydym yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r Gweinyddwr Absenoldeb Astudio i gadarnhau eich dyraniad unigol. Os ydych angen rhagor o wybodaeth, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Siobhan Griffin, Gweinyddwr Absenoldeb Astudio, YAC, Ffôn: 029 2184 2474

Diffinnir Absenoldeb Astudio fel absenoldeb a roddir at ddibenion ôl-raddedig ac a gymeradwyir gan y BIP, ac mae'n cynnwys astudio (fel arfer ond nid yn gyfan gwbl neu'n angenrheidiol ar gwrs), ymchwilio neu sefyll arholiadau.

Gweinyddwyr Absenoldeb Astudio BIP Caerdydd a'r Fro

Miss Siobhan Griffin, Gweinyddwr Absenoldeb Astudio, YAC, Ffôn: 029 2184 2474
E-bost Siobbhan.Griffin@wales.nhs.uk

Miss Abigail James, Cynorthwyydd Addysg Feddygol, YAC, Ffôn: 029 2184 6237
E-bost Abigail.James@wales.nhs.uk

Mrs Carole Gee, Dirprwy Reolwr Addysg Feddygol, YAC, Ffôn: 029 2184 6222
E-bost: Carole.Gee@wales.nhs.uk

Mae'r gweinyddwyr yn cysylltu â'r Cyfarwyddwyr Rhaglenni Sylfaen (CRhS) ynghylch materion sy'n ymwneud â cheisiadau absenoldeb astudio RhS1 a RhS2, a'r Arweinwyr Cyfadran eraill ynghylch ceisiadau eraill.

System Rheoli Absenoldeb Astudio Ar-lein

Dull o ymgeisio am absenoldeb astudio ar-lein yw'r System Rheoli Absenoldeb Astudio. Mae'r system yn caniatáu i geisiadau ar gyfer pob math o gyfnodau o absenoldeb gael eu rheoli gyda mwy o effeithlonrwydd gan fod y broses yn ddi-bapur a bod pob cyfathrebiad electronig wedi'i awtomeiddio'n llawn.
 
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Miss Siobhan Griffin, Ffôn: 029 2184 2474, E-bost: Siobhan.Griffin@wales.nhs.uk

Ymgeisio am Absenoldeb Astudio

Dilynwch y camau hyn wrth wneud cais am absenoldeb astudio:

  • Rhaid gwneud ceisiadau ar-lein chwe wythnos cyn dyddiadau'r cwrs.
  • Sicrhewch eich bod yn gwneud cais am yr holl gostau yr ydych yn debygol o'u talu.

DS Rhaid i chi gadw at weithdrefnau adrannol ar gyfer cofnodi eich absenoldeb er mwyn sicrhau sicrwydd clinigol.

 

Hawlio Costau yn Ôl

DS Ni allwch hawlio costau yn ôl am absenoldeb astudio oni bai eich bod wedi cwblhau'r broses ymgeisio ar-lein cyn i'r cwrs gael ei gynnal.

  • Rhaid gwneud cais am yr holl gostau sy'n gysylltiedig â'ch absenoldeb astudio trwy sel-expenses.
  • Sicrhewch eich bod yn uwchlwytho'r holl dderbynebau cyn cyflwyno'r hawliad. Ni thelir costau a gyflwynir heb dderbynebau.
  • Rhaid cyflwyno costau cyn pen tri mis o ddyddiad y cwrs.

Ni dderbynnir ceisiadau annarllenadwy neu anghyflawn. 

Dilynwch ni