Neidio i'r prif gynnwy

Osgoi 200,000 Milltir o Deithio wrth i Ymgynghoriadau Fideo fynd o Nerth i Nerth

5 Chwefror 2021

Mae dros 200,000 milltir o deithio i ysbytai wedi ei osgoi yng Nghaerdydd a’r Fro ar ôl cyflwyno ymgynghoriadau fideo.

Mae Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru yn galluogi cleifion i gael eu hapwyntiad ysbyty trwy fideo o gyfforddusrwydd eu cartref eu hunain neu heb orfod gadael y gwaith.

Mae dros 10,000 awr o apwyntiadau wedi’u cynnal drwy ffurf ymgynghoriad fideo ers lansio’r gwasanaeth ym mis Ebrill 2020, gan roi mwy o hyblygrwydd i filoedd i gleifion o ran sut maent yn gweld eu clinigwyr.

Mae’r gwasanaeth yn parhau i dyfu mewn poblogrwydd, gyda’r nifer o ymgynghoriadau wythnosol yn torri record bob wythnos ym mis Ionawr. Cynhaliwyd 1,146 ymgynghoriad fideo yn ystod wythnos olaf y mis.

Drwy leihau’r nifer o deithiau i’r ysbyty yn sylweddol, mae’r gwasanaeth wedi helpu i hwyluso mesurau pellter cymdeithasol, gwella parcio yn safleoedd y Bwrdd Iechyd a lleihau lefelau llygredd yn lleol, gyda thua 56 tunnell o allyriadau CO2 eisoes wedi’u hatal.

Dywedodd Allan Wardhaugh, Prif Swyddog Gwybodaeth Glinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Mae ymgynghoriadau fideo wedi cael effaith arwyddocaol ers i ni eu cyflwyno ym mis Ebrill, gan ddod yn rhan greiddiol o sut rydym yn rhyngwynebu gyda’n cleifion o fewn ychydig fisoedd.

“Ymddengys eu bod yn opsiwn hynod boblogaidd a chyfleus i gleifion er mwyn iddynt fynychu eu hapwyntiadau ysbyty yn hyblyg, ac mae’r ffigurau’n dweud y cyfan o ran eu cyfraniad cadarnhaol sylweddol i’r amgylchedd.

“Mae ymgynghoriadau fideo yn rhywbeth rydym wedi bod yn bwriadu eu cyflwyno ers amser er mwyn cynnig gofal iechyd mewn ffordd gynaliadwy, yn agosach at gartrefi pobl. Rydym yn gwybod nad ydynt yn addas ym mhob achos, ond mae ein clinigwyr yn parhau i archwilio sut y gallwn fanteisio i’r eithaf arnynt, gan hyrwyddo gwasanaeth gwerthfawr i gymaint o grwpiau o gleifion â phosibl.

“Wrth i ni barhau i weld y nifer o ymgynghoriadau fideo yn cynyddu, mae’n amlwg fod ganddynt ddyfodol addawol gyda’r potensial o gynnig manteision go iawn, eang am flynyddoedd i ddod. Yn rhan o weithredu ein strategaeth ddigidol, rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr yn lleol ac ar draws y GIG yng Nghymru i weld ble y gall technegol ddigidol fynd â ni.

I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru, gan gynnwys y rhestr gynyddol o wasanaethau BIP Caerdydd a’r Fro sy’n cynnig apwyntiadau fideo, ewch i’n tudalen ymgynghoriad fideo.

 

05/02/2021

Dilynwch ni