Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Plant

Meithrinfa Tedi Bêr

Rydym yn ffodus iawn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gael dwy feithrinfa gofal dydd yn y gweithle.

Un feithrinfa hyd at 60 lle yn Ysbyty Athrofaol Cymru a meithrinfa hyd at 30 lle ar safle Ysbyty Athrofaol Llandochau. Mae’r ddwy feithrinfa’n gofalu am blant rhwng 3 mis a 5 oed ac maent ar agor rhwng 8:00am (neu 7:00am am gost ychwanegol) a 6:00pm.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler poster Meithrinfa Tedi Bêr neu cysylltwch â:

  • Arfana Ashraf neu Lee-Anne Keveren ar 02921 842 550 (est. 42550) ar gyfer safle Ysbyty Athrofaol Cymru
  • Kelly Lovell neu Lisa Martin ar 02921 825 697 (est. 25697) ar gyfer safle Ysbyty Athrofaol Llandochau
  • Suzanne Toft ar 02921 826 216 (est. 26216) ar gyfer ymholiadau gofal plant; neu
  • Janice Pitt ar 02921 826 844 (est. 26884) ar gyfer ymholiadau gofal plant.

Mae Meithrinfeydd Tedi Bêr bellach ar agor i bawb, ac nid oes rhaid i chi gael eich cyflogi gan y BIP i wneud cais am le.

 

Ffurflenni Cais

 

Llythyr eglurhaol ffurflen gais rhestr aros

Ffurflen Gais Rhestr Aros - YALl

Ffurflen Gais Rhestr Aros - YAC

Prosbectws Meithrin – Ebrill 2024

Rhestr Brisiau Meithrinfa Tedi Bêr

 

Dewisiadau Cyllido Gofal Plant

Y dewisiadau sydd gan rieni o ran ariannu eu trefniadau gofal plant yw Gofal Plant Di-dreth, Credyd Cynhwysol a Lleoedd Gofal Plant a Ariennir. Bydd gwefan Cyllid a Thollau EF yn helpu pob rhiant i wneud penderfyniad gwybodus ar yr opsiynau sydd ar gael iddynt.

Gofal Plant Di-dreth

Mae hyn yn cyfateb i’r dreth y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei thalu - 20% - sy’n rhoi ei enw i’r cynllun, ‘di-dreth’. Bydd y Llywodraeth yn ychwanegu at y cyfrif gydag 20% o gostau gofal plant hyd at gyfanswm o £10,000 - sy’n cyfateb i gymorth o hyd at £2,000 y plentyn y flwyddyn (neu £4,000 i blant ag anghenion ychwanegol).  Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Gov.UK.

Cynnig Gofal Plant

Mae Llywodraeth Cymru eisiau i’w chynnig gofal plant fod mor glir a hawdd ei chyrchu â phosibl fel y gall rhieni plant 3 a 4 oed barhau i ddewis y darparwyr sy’n gweddu orau i’w hanghenion. Bydd rhieni yn derbyn cyfanswm cyfunol o 17.5 awr o addysg gynnar a gofal plant yn ystod y tymor.

Bydd yr addysg gynnar am ddim, gyfredol a ddarperir gan y Cwricwlwm i Gymru yn rhan o’r cynnig hwn. Am 9 wythnos o’r flwyddyn, y tu allan i’r tymor ysgol, bydd rhieni’n derbyn 30 awr yr wythnos o ofal plant. Ni fydd y 4 wythnos sy’n weddill yn cael eu hariannu; yn Tedi Bêr mae hyn yn cyfateb i fis Awst.

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r dewisiadau ariannu, cysylltwch â Suzanne Toft, Uwch Reolwr Gofal Plant y BIP, drwy e-bostio Suzanne.Toft@wales.nhs.uk neu ffonio YALl est. 26884 neu 02921 826884.

Talebau Gofal Plant Edenred

***Mae Cynllun Talebau Gofal Plant Edenred bellach ar gau i ddefnyddwyr BIP newydd***

 

 

Dilynwch ni