Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau

National Apprenticeship Week Header with illustrated people

Dathlu Cyflawniad

Mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau bellach wedi bod, ond nid yw hynny’n golygu bod y gwaith yn dod i ben; mae angen i ni barhau â’r gwaith gwych hwn ac adeiladu ar y momentwm. Bydd defnyddio’r cymwysterau hyn a gydnabyddir yn genedlaethol ac a ariennir yn llawn ar draws y gwasanaeth, ac mewn gwahanol broffesiynau, yn ein galluogi i adeiladu gweithlu medrus sy’n canolbwyntio ar y dyfodol ac sy’n barod ar gyfer yr heriau sydd o’n blaenau. Mae hyn wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â thema denu, recriwtio a chadw’r Cynllun Pobl a Diwylliant newydd.

Mae’r gwaith o godi ymwybyddiaeth, y gweithgareddau cyfeirio a’r straeon a rannwyd drwy gydol yr wythnos wedi bod yn llwyddiannus iawn ac wedi rhoi cyfle i staff ymgysylltu â’n rhanddeiliaid allweddol. Un o brif uchafbwyntiau’r wythnos oedd y drafodaeth banel ‘Gofyn i Brentis, Gofyn i Gyflogwr’. Roedd yn ysbrydoledig clywed profiadau rheolwyr llinell a’r hyder a oedd gan y prentisiaid wrth siarad am eu dyheadau a’u huchelgeisiau eu hunain ar gyfer y dyfodol. Mae’n amlwg bod recriwtio prentisiaid newydd yn hanfodol er mwyn adeiladu ein gweithlu ar gyfer y dyfodol ac fel BIP mae angen i ni ddarparu mwy o gyfleoedd i hyn ddigwydd.

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu a chefnogi’r wythnos ymwybyddiaeth allweddol hon.

Rachel Gidman: Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Diwylliant

Headshot of Rachel Gidman Mae’r Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn gyfle perffaith, nid yn unig i ddathlu cyflawniadau ein prentisiaid, ond hefyd i dynnu sylw at y cyfleoedd y gall y cymwysterau hyn eu cynnig wrth i ni ymdrechu i ddenu, recriwtio a chynnal gweithlu sy’n canolbwyntio ar y dyfodol ac yn unol â’n cynllun Pobl a Diwylliant.

 

Bydd prentisiaethau’n cael effaith gadarnhaol arnoch chi fel unigolyn neu fel rheolwr sy’n awyddus i feithrin a datblygu rôl newydd i ategu eich tîm. Mae prentisiaeth yn galluogi’r system iechyd a gofal i ddod yn sefydliad mwy cynhwysol gyda’r hyblygrwydd i unigolion weithio a dysgu.

 

Dros y tair blynedd diwethaf rydym wedi gweld llwyddiant mawr wrth i’n prentisiaid gael swyddi parhaol yn y bwrdd iechyd ac mae cannoedd o’n staff presennol wedi astudio drwy fframwaith prentisiaeth.

Mae’r Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau hon yn eich galluogi i ofyn cwestiynau a chael gwybod mwy. Ymunwch yn ein digwyddiadau ar-lein a’n digwyddiadau galw heibio gyda darparwyr hyfforddiant. Diolch

 

 

Dilynwch ni