Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli Galluogrwydd - Cymryd Camau Ffurfiol

Os bydd yr asesiad cychwynnol yn nodi bod sail i gymryd camau ffurfiol ynghylch honiad o berfformiad gwael, neu os nad yw perfformiad y cyflogai'n gwella cyn pen yr amserlenni a gytunwyd, bydd gofyn i'r cyflogai ddod i wrandawiad galluogrwydd priodol (o gam 1 i 3). 

formal capability

I baratoi ar gyfer y cyfarfod, dylech:

  • Hysbysu'r unigolyn yn ysgrifenedig am y pryderon penodol, y rhesymau dros y pryderon ynghylch ei berfformiad, a'r canlyniad tebygol os penderfynir ar ôl y gwrandawiad fod y perfformiad yn anfoddhaol. Os yw'n briodol, dylid paratoi crynodeb o'r wybodaeth berthnasol a gasglwyd yn rhan o'r asesiad
  • Lle bo'n briodol, casglu a chynnwys unrhyw ddogfennau ategol perthnasol e.e. PADR, Cofnodion o Drafodaeth Anffurfiol a datganiadau tyst. Dylid cynnwys y rhain gyda'r llythyr a'u hanfon at y cyflogai
  • Ystyried pa gwestiynau y dylech eu gofyn yn ystod y gwrandawiad a allai helpu i egluro materion
  • Ystyried a fydd unrhyw dystion yn ofynnol a holi i weld a ydynt ar gael

Disgrifir y fformat nodweddiadol ar gyfer gwrandawiad galluogrwydd yn y siart llif isod: 

 

conducting a capability hearing

Dilynwch ni