Ymgyrch Wyn yw'r ffrwd waith Pobl Hŷn Fregus yn Rhaglen Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol Caerdydd a Bro Morgannwg. Datganwyd mai nodau'r bartneriaeth hon yw:
Codi ansawdd ein gwasanaethau drwy ailwampio gwasanaethau a phrosesau;
Sicrhau'r annibynniaeth a'r llesiant mwyaf posibl i'n dinasyddion a'u teuluoedd yng nghyd-destun eu bywydau a'u cymunedau;
Parhau i ddatblygu arbenigedd ein staff – gweithio'n wahanol gyda'n gilydd;
Gwneud y mwyaf o gyllid drwy gydgyfrannu ein hadnoddau er budd dinasyddion.
Ceisia'r Ymgyrch gydredeg a chydlynu mentrau i gefnogi troi polisïau a strategaethau yn wirionedd gweithredol, drwy greu'r ‘Tîm o Gwmpas Wyn’ fel y disgrifir isod:
Dogfen Wybodaeth am Ymgyrch Wyn