Neidio i'r prif gynnwy

Thrombosis Gwythiennau Dwfn

Celloedd gwaed

Mae Thrombosis Gwythiennau Dwfn (DVT) yn golygu ceulad gwaed mewn gwythïen. Mae'r math mwyaf cyffredin o DVT yn y goes. Os yw DVT yn ffurfio yn y goes, gall achosi chwyddo yn y goes, a all beri gofid.

Pryder mawr yw y gall rhywun â DVT ddatblygu Embolws Ysgyfeiniol (PE). Mae hyn yn digwydd pan fydd rhan o'r ceulad gwaed (embolws) yn torri i ffwrdd ac yn teithio i fyny'r gwythiennau trwy'r galon ac i'r ysgyfaint. Yna gall y ceulad fynd yn sownd yn y rhydwelïau yn yr ysgyfaint ac yn blocio cylchrediad; gall hyn achosi anawsterau anadlu, poenau yn y frest, ac mewn nifer fach o achosion, gall fygwth bywyd.

Beth sy'n achosi thrombosis gwythiennau dwfn? 

Yn y DU bob blwyddyn mae hyd at un o bob mil o bobl yn cael eu heffeithio gan DVT. Mae llawer o'r bobl sy'n datblygu DVT yn yr ysbyty, neu wedi bod yn yr ysbyty yn ddiweddar.

Un o brif achosion DVT yw ansymudedd. Mae hyn oherwydd bod y gwaed sy'n cylchredeg trwy wythiennau'r goes yn dibynnu ar gyfangiad cyhyrau'r goes i'w yrru i fyny'r goes.

Os nad yw person yn symud ei goesau ac yn cyfangu ei gyhyrau, mae llif ei waed yn mynd yn swrth a gall hyn arwain at i geuladau gwaed ffurfio.

Mae hyn yn ffactor pwysig wrth ystyried pam mae pobl sy'n dod i'r ysbyty mewn mwy o berygl o gael DVT. Pan fyddwch yn yr ysbyty ac yn sâl, byddwch yn aml yn treulio cyfnodau hir yn y gwely neu'n eistedd mewn cadair. Yn anffodus, mae'r ansymudedd hwn yn creu'r amodau delfrydol i geulad gwaed ffurfio.

 

Dilynwch ni