Neidio i'r prif gynnwy

Beth mae'r driniaeth yn ei gynnwys?

Ar gyfer afferesis lipoprotein, mae gofyn i ddwy nodwydd gael at ddwy wythïen yn aelodau uchaf y corff neu mae angen ffistwla rhydwythiennol. Mae triniaethau bob pythefnos yn cymryd tua 2-3 awr.

Mae'r driniaeth yn gwaredu apolipoprotein B100, y lipoprotein atherogenig sy'n gysylltiedig â cholesterol LDL a VLDL a lipoprotein (a) (‘colesterol gwael’), ac mae'r rhan fwyaf o'r colesterol HDL (‘colesterol da’) yn cael ei gadw.

Caiff y cleifion therapi gwrthgeulydd gan ddefnyddio heparin a/neu ddecstros sitrad asid (ACD) yn ystod y driniaeth. Ar hyn o bryd, mae 7 o ganolfannau afferesis lipoprotein yn y DU—yng Nghaerdydd, Llundain (Ysbytai Harefield a Hammersmith), Bryste, Leeds, Birmingham a Nottingham.

I gael rhagor o wybodaeth i gleifion am y driniaeth hon, trowch at wefan HEART UK

 

Dilynwch ni