Neidio i'r prif gynnwy

Storïau Cleifion

Mae David Fisher, o Salisbury, yn ymwelydd rheolaidd â'r uned ers dros 22 flynedd, ac yntau wedi cael dros 500 o driniaethau. Yma, mae'n siarad yn ei eiriau ei hun am bwysigrwydd y gwasanaeth yn ei fywyd ef.  

Wrth edrych yn ôl, y cof cyntaf sydd gennyf o arwyddion rhybudd Hypercolesterolemia Teuluol (HT) yw pan oeddwn yn 23/24 oed tua diwedd y 60au neu ddechrau'r 70au. Ar y pryd, roeddwn yn aelod o'r heddlu yn gweithio yn Swindon. Rwy'n cofio mynd at y meddyg am fy ‘migyrnau cnapiog’ am fy mod i'n poeni y byddwn fel fy mam-gu yn y pen draw, a migyrnau tebyg ganddi hi. Yn debyg iddi hi, cefais ddiagnosis o arthritis, er nad oedd unrhyw symptomau eraill gennyf. 

Ym 1975 cefais fy ngosod yn Salisbury ar ôl marwolaeth sydyn fy nhad yn 61 oed. Roedd wedi dioddef trawiad ar y galon.  

Cefais fy nhrosglwyddo i'r CID o'r adran draffig ac mae'n rhaid imi gyfaddef imi losgi'r gannwyll yn ei deupen a byw i'r eithaf. Roeddwn yn ysmygu ac yn yfed yn weddol drwm a fi oedd y ditectif nodweddiadol a bortreadwyd yn y rhaglen deledu ‘Life on Mars’ – a hyd yn oed y siaced ledr amdanaf!

Tua diwedd mis Awst 1981, treuliodd Jo, fy ngwraig, ein dau o blant a minnau bythefnos delfrydol o wyliau yn teithio bob dydd i  Dorset lle'r oedd gennym gwch modur bychan. Ar 31 Awst, roeddem ar y cwch ac fe dreuliais ychydig o amser yn nofio o dan y cwch yn glanhau'r gragen. Bu'n rhaid imi roi'r gorau iddi wrth imi sylweddoli nad oedd fy nghalon i'n curo fel y byddai fel arfer ac roeddwn i'n teimlo'n eithaf sâl. Nid oeddwn mewn poen o gwbl, dim ond yn teimlo'n rhyfedd iawn. Awgrymodd Jo y dylem fynd adref, a dyna a wnaethom.  

Yn y car ar y ffordd yn ôl i Salisbury cafodd ein sgrin wynt ei malu, a hynny fel ffrwydrad bychan. Chwerthin wnaeth Jo a minnau pan ddywedodd hithau 'does dim rhyw lawer o'i le ar dy galon di os na chafodd hynny unrhyw effaith!' 

Drannoeth, sef 1 Medi 1981, roeddwn i fod yn ôl ar ddyletswydd am 4pm. Yn ystod y bore, roeddwn i allan yn yr ardd yn cael sigarét pan gefais boen ddifrifol i lawr fy mraich chwith. Doedd gen i ddim syniad beth oedd y boen, ond cefais digon o ysgytwad i fynd i'r tŷ a thywallt gwydraid mawr o jin imi fy hun er mwyn tawelu fy nerfau. 

Yr un bore hwnnw, ni allaf gofio'n awr pryd y digwyddodd wedi hynny, ond rwy'n cofio sefyll yn ein hystafell fyw pan ddaeth y boen eto, ond y tro hwn roedd mor boenus roeddwn i ar fy mhengliniau. Roedd gofyn cael gwydraid arall o jin ac, y tro hwn, fe ffoniais Jo, gan egluro beth oedd wedi digwydd a gofyn iddi ffonio'r gwaith a dweud wrthynt na fyddwn yn dod i mewn.

Es i i'r gwely wedyn yn teimlo bod rhywbeth mawr o'i le, ond ni allwn feddwl beth o gwbl. Hwyrach bod y jin bellach yn cymylu fy meddwl!  

Heb fod yn hir wedyn, cyrhaeddodd Jo gartref, a'r meddyg yn fuan ar ei hôl hi. Ar ôl archwiliad byr, dywedodd y meddyg y dylwn fynd yn syth i'r adran Argyfwng am ei fod yn tybio trawiad ar y galon. Er bod y meddyg yn briodol iawn am alw ambiwlans, roeddwn i'n ystyfnig fel arfer gan fynnu ei bod yn gyflymach i Jo fynd â mi yn y car, a hynny'n bennaf am fod eisiau sigarét arall arnaf! (Yr un olaf erioed!) Ar y pryd, roeddwn i'n 35 oed. 

O hynny ymlaen, gweddnewidiodd fy mywyd. Ar ôl gadael yr ysbyty, dychwelais i'r CID mewn rôl weinyddol, ond yna gadewais y CID i weithio yn Ystafell Reoli'r Orsaf Heddlu. Ar y pryd, roedd ein plant yn 12 a 9 oed, ac roeddem yn byw yn un o dai Awdurdod yr Heddlu. Ar y pryd, roeddwn i'n teimlo'n ddiogel am fy mod bellach mewn swydd i ffwrdd o'r 'rheng flaen'. Ychydig wedyn y cynghorodd ein ffrind, a ddigwyddai fod yn frocer yswiriant, y dylem ystyried o ddifrif prynu eiddo. Ar y pryd, roedd hi'n bosibl i swyddogion yr heddlu gael morgais 100% wedi'i ddiogelu gan forgais gwaddol heb fod unrhyw gwestiynau iechyd yn cael eu gofyn. Roedd hyn ar fin newid a buasai'n golygu na fyddem byth wedi gallu prynu tŷ, yn ôl pob tebyg. Felly, heb gynilion o gwbl, dyma ni'n penderfynu mentro.

Cyn pen misoedd o symud i mewn, er imi gael fy sicrhau fod fy swydd yn ddiogel, arswydais pan gefais neges yn dweud y byddwn yn gadael yr Heddlu oherwydd fy salwch, a honno'n rhoi tri mis o rybudd imi. Roedden ni'n torri'n calonnau. Ar unwaith, dechreuais chwilio am waith a thrwy un o'm cysylltiadau roeddwn yn ffodus o gael swydd arall gyda chyfreithiwr lleol yn ei Adran Amddiffyn Troseddol. Gostyngodd ein hincwm yn sylweddol, ond o leiaf fod swydd gennyf. Dechreuais hon ym mis Tachwedd 1983.

O ran iechyd, roeddwn i'n gwybod nad oedd popeth yn iawn a theimlwn yn flinedig iawn; weithiau, byddai'n rhaid imi afael mewn pethau wrth gerdded o gwmpas. Yn y pen draw, bu'n rhaid imi gael llawdriniaeth ddargyfeiriol driphlyg. Yn anffodus, fe ddioddefais dolchen ar un o'm hysgyfaint ac roeddwn i'n eithaf anhwylus am ychydig wedi'r llawdriniaeth. Pan ddychwelais i weld y llawfeddyg am archwiliad, dywedodd wrthyf am fwrw ymlaen a byw fy mywyd am fod popeth yn iawn nawr.

Ddeunaw mis yn ddiweddarach, roeddwn yn ôl yn yr Adran Argyfwng gyda phoen yn fy mrest a chefais fy nghyfeirio o'r diwedd at Dr Giff Batstone, yr arbenigwr lipidau a oedd yn gyfrifol bryd hynny am gleifion yn fy ardal i. Roedd fy lefelau colesterol yn uchel iawn pan ddechreuais ei weld e'n wreiddiol. Dim ond bryd hynny y cefais wybod bod HT arnaf ac am ganlyniadau'r clefyd. Roedd yn dipyn o ergyd ar ôl cael trawiad ar y galon yn barod, llawdriniaeth ddargyfeiriol a phoen yn fy mrest o hyd. Ni allai ostwng fy lefelau â chyffuriau i lefelau synhwyrol a soniodd ei fod yn gwybod am dreialon a oedd yn digwydd yn Ysbyty Llandochau, Caerdydd o'r enw Afferesis LDL. Holodd a hoffwn i fynd i'r ysbyty i gwrdd â Dr Stephanie Matthews a oedd yn cynnal y treialon. Ni allwn fynd yno'n ddigon cyflym, a minnau'n teimlo bod rhywun wedi taflu rhaff achub ataf. 

Es i gwrdd yn brydlon â Stephanie, ond roedd yn dorcalonnus gen i ddysgu nad allwn gymryd rhan yn y treialon am fy mod i wedi cael llawdriniaeth yn barod. Serch hynny, gallwn gael triniaeth petawn i'n talu amdani. I gwtogi ar stori hir iawn, gyda chymorth BUPA a Kaneka, un o'r cwmnïau sy'n gwneud cyfarpar afferesis, roeddwn i'n gallu ariannu dwy flynedd o driniaeth. Dechreuais fy nhriniaeth ar Ddydd Gŵyl Dewi ym 1991.

Ychydig iawn yr wyf yn ei gofio am fy lefelau colesterol yn ystod y cyfnod hwn, ond gwn fod gen i lefelau cyfanswm o 13 mmol/l  ar un pryd ac roedd hyn tua 10 mmol/L pan ddechreuais y driniaeth yn Llandochau.  Mae hyn tua dwywaith colesterol y rhan fwyaf o bobl. Erbyn hyn, rwy'n cael y driniaeth ers 21 o flynyddoedd ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, bu gennyf lefelau gweddol sefydlog sef rhyw 6 mmol/L.  Fe gafwyd oes aur yn 2011 pan oedd y lefel rhwng 5.3 a 5.6 mmol/L, ond erbyn hyn rwy'n tueddu i hofran rhwng 5.9 a 6.5 mmol/L.

Ers imi ddechrau cael fy nhrin, mae ein plant a'n hwyrion wedi cael diagnosis o HT hefyd ac maen nhw, ac eithrio'r ieuengaf o'r wyrion, yn cael eu trin i gyd â statinau.

Er mwyn cael y driniaeth, bu'n rhaid i'r ddau ohonom drefnu diwrnod i ffwrdd bob pythefnos gyda'n cyflogwyr, a'r ddau ohonom o'r diwedd yn gweithio wythnosau 'cywasgedig' i gael y diwrnod i ffwrdd. Fel arfer, byddem yn dechrau'r gwaith am 7.30am bob dydd i wneud iawn am yr oriau. Wedyn, wrth gwrs, ar ein 'diwrnod i ffwrdd', byddem yn codi'n gynharach byth i deithio i Landochau ar ddiwrnod y driniaeth. Mae'n cymryd dwy awr a hanner ar ddiwrnod da - a gall gymryd unrhyw beth rhwng 4 ac 8 awr ar ddiwrnodau gwael. Yn y dyddiau cynnar, byddem yn teithio ar y trên ac yn cael tacsi o'r orsaf i Landochau. Yn y pen draw, roedd hyn yn rhy ddrud ac roedd yn gynyddol anghyfleus pan na fyddai trenau'n cyrraedd neu'n stopio cyn inni ddychwelyd i Salisbury.

Erbyn hyn, rydym yn teithio yn y car, sy'n iawn yn ystod yr haf, ond yn y gaeaf pan fydd y tywydd yn arw, byddwn yn teithio ar y prynhawn blaenorol ac yn aros mewn Premier Inn. Ond mae hyn hefyd yn mynd yn ddrud iawn gyda chostau tanwydd; rwyf innau wedi ymddeol a bydd Jo yn ymddeol cyn hir, felly daw arian yn brin.

Erbyn hyn, rwyf wedi cael 500 o driniaethau ac er gwaetha'r siwrnai a'r problemau cysylltiedig, rydw i'n ddiolchgar dros ben am bob un. Rwy'n gwybod yn iawn beth fuasai'r prognosis ym 1991 hebddi. 

Rai blynyddoedd yn ôl pan oedd hi'n ddyddiau cynnar ar y driniaeth, fe gawsom ein ffilmio a chawsom gyfweliad ar gyfer y newyddion ac, ar y pryd, dywedodd Jo fod Afferesis LDL wedi rhoi gobaith i'r dyfodol inni, gobaith y gallem gyrraedd ymddeoliad gyda'n gilydd. Wel, fe lwyddon ni!

Yn olaf, hoffwn ddweud bod adegau dros y blynyddoedd, am ryw reswm neu ei gilydd, pan fu'r driniaeth yn dipyn o boen, a hynny'n llythrennol. Fodd bynnag, diolch i'r merched sy'n rhoi'r driniaeth, yn amlach na pheidio, mae fel petai'n estyniad o'm tŷ i. Mae'n fwy o awyrgylch teuluol ac rwy'n sicr yn ystyried y staff yn ffrindiau imi - ffrindiau y gallaf siarad â nhw ni waeth beth yw'r problemau - ac rwy'n gwybod y gallaf godi'r ffôn unrhyw bryd a chael tawelwch meddwl os bydd angen hynny arnaf byth.

 

 

 

 

 

Dilynwch ni