Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau Clinigol

Cyngor clinigol brys

Gellir cysylltu â Dr Badminton am gyngor ar driniaeth yn syth.

Atgyfeiriad clinigol arferol

Dylid anfon llythyr atgyfeirio at Dr Badminton yng Ngwasanaeth Porffyria Caerdydd. Yna bydd cleifion yn cael eu neilltuo naill ai i'r clinigau metabolaidd oedolion neu bediatreg, a gynhelir ar y cyd â Dr Shortland, neu i'r clinig Dermatoleg, a gynhelir ar y cyd â Dr James Powell

Cyngor sampl brys

Ar hyn o bryd, rydym yn gallu cynnig ymchwiliadau porffyria brys, yn enwedig mesur porffobilinogen wrin, os yw hynny'n cael ei nodi'n glinigol. Fodd bynnag, rhaid trafod profion brys gyda chlinigydd sydd ynghlwm wrth ein gwasanaeth i gadarnhau'r rhesymau clinigol dros y brys. Bydd ymchwiliadau na chytunwyd arnynt drwy'r llwybr hwn yn cael eu mesur yn y swp arferol nesaf.

Cyngor dros y ffôn

Os ydych eisiau trafod rheolaeth achos, dylech gysylltu â Dr Badminton ar 029 2184 6588.

Gellir cael cyngor ar brofion labordy ar 029 2184 3565 a chyngor genetig ar 029 2184 2811.

Gellir cael cyngor ar ddefnyddio cyffuriau yn ddiogel i gleifion â porffyria a rhestr o gyffuriau diogel trwy Wasanaeth Gwybodaeth Meddyginiaethau Cymru.

Gellir cael cyngor dros y ffôn ar ddefnyddio cyffuriau yn ddiogel i gleifion â porffyria ar 029 2184 2251.

Gellir cyrchu rhestr o gyffuriau diogel trwy Wasanaeth Gwybodaeth Meddyginiaethau Cymru.

Dilynwch ni