Neidio i'r prif gynnwy

Biocemeg Feddygol ac Imiwnoleg

gwyddonydd mewn labordy

Mae'r Adran Biocemeg Feddygol ac Imiwnoleg yn darparu ystod eang o wasanaethau biocemeg glinigol, tocsicoleg ac imiwnoleg o'i labordai yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Athrofaol Llandochau ac Ysbyty Felindre.

Ar hyn o bryd mae'r adran yn delio â mwy na 2500 o samplau bob dydd ac yn cynhyrchu dros 5 miliwn o ganlyniadau dadansoddol bob blwyddyn.

Mae'n darparu gwasanaeth i ofal sylfaenol ac eilaidd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn ogystal â chefnogi gwasanaethau clinigol trydyddol yng Nghaerdydd. Darperir y gwasanaethau labordy arbenigol hyn, gan gynnwys gwasanaethau Biobrofion Uwchranbarthol, i labordai eraill ledled Cymru a'r DU. Mae'r rhain yn cynnwys hormonau peptid a steroid, porffyrinau a phrofion imiwnoleg arbennig.

Mae gwasanaethau cenedlaethol eraill yn cynnwys sgrinio cynenedigol a Sgrinio Newyddenedigol i Gymru, gwasanaethau olrhain metel a phediatreg metabolaidd rhanbarthol.

Mae'r adran yn Labordy Meddygol achrededig UKAS Rhif: 8989

Mae ein hachrediad ISO 15189 wedi'i gyfyngu i'r gweithgareddau hynny a ddisgrifir ar ein hatodlen achrediad UKAS

Gwenwyneg cwmpas hyblyg

Rydym yn cynnig ystod o Wasanaethau Clinigol a Chyngor - gweler pob adran unigol am ragor o wybodaeth.

Cysylltwch â'r labordy petaech angen SLA.

Er mwyn gwella'r gwasanaeth i'n defnyddwyr rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'n repertoire Mae dilysiad/dilysu o'r profion hyn wedi 'i' wneud

Mae newidiadau yn cynnwys:

Prawf chwys (Clorocheck)

MMA (TQSu)

Calprotectin

Cryman gell (TQSu)

IMD (TQSu)

ELF - HA, TIMP

Oestradiol (Centaur)

Metadrenalinau plasma (Sciex 6500)

Theiroglobwlin (Alinity)

Autoantibodies GAD (DSX)

IA2 (DSX)

ZnT8 (DSX)

Trosglwyddorin (Centaur)

Panel cyffuriau Antiarrythmic (LCMSMS)

Gwrthgyrff peptid citrullinated gwrth-gylchol (Phadia)

Fodd bynnag, mae rhai o'r profion hyn bellach y tu allan i'n cwmpas achredu fel yr aseswyd gan UKAS. Hysbyswyd UKAS a bydd yn asesu'r newidiadau hyn fel astyniad i gwmpas ein.

Our Services

 QI-BIO-TXFlexibleScope welsh version r5.pdf (PDF, 209Kb)
Gwybodaeth Gyswllt
Gwasanaethau Biocemeg Acíwt
Labordy Sgrinio Cyn Geni
Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan
Treialon Clinigol
Adrodd yn Electronig
Imiwnoleg
Labordy Metabolaidd
Labordy Endocrinoleg
Labordy Sgrinio Babanod Newydd-anedig
Gwasanaeth Porffyria Caerdydd
Profion Preifat / Masnachol
Gofynion Labelu Sbesimenau (heblaw Caerdydd a'r Fro)
Gwasanaeth Monitro Cyffuriau Therapiwtig
Labordy Tocsicoleg
Elfennau Hybrin
Adnoddau Defnyddiol MBI
Dilynwch ni