Neidio i'r prif gynnwy

Microsgopeg Electron

Mae'r adran Microsgopeg Electron yn cynnig ystod eang o wasanaethau arbenigol o'i labordy yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae'n rhan o Batholeg Gellog ac yn gweithio ochr yn ochr â chyfleusterau Prifysgol Caerdydd.

Ar hyn o bryd mae'r adran yn prosesu tua 350 o sbesimenau y flwyddyn, a dyma'r unig uned microsgopeg electron diagnostig yng Nghymru.

Beth yw Microsgopeg Electron?

Microsgopeg Electron (EM) yw'r astudiaeth o sbesimenau drwy ddefnyddio microsgop electron. Mae'r microsgop electron trawsyrru (TEM) yn gweithredu ar yr un egwyddorion sylfaenol â'r microsgop golau ond mae'n defnyddio electronau yn lle golau ac felly mae'n gallu chwyddo llawer mwy. Gall weld gwrthrychau llawer llai a strwythur celloedd (wltra-adeiledd) yn fanwl iawn, y gellir eu chwyddo filoedd lawer o weithiau.

Mae'n ddull diagnostig meddygol pwysig, yn enwedig ym meysydd clefyd yr arennau, patholeg gyhyrau, patholeg diwmor, niwropatholeg, patholeg bediatreg, anhwylderau storio, astudiaethau o strwythur blewynnol, heintiau protosoaidd parasitig mewn AIDS, gastroenteritis firaol a heintiau firaol ar y croen.

Mae Diagnostig EM angen dehongliad medrus o'r delweddau a welir o dan y microsgop electron.

Canfyddwch fwy am ein gwasanaethau, atgyfeirio a chanllawiau prisiau, a chyfarwyddiadau sut i anfon sampl

Gwybodaeth gyswllt Oriau Labordy
Llun - Gwener 8:45-5:00pm
Bob amser arall cyngor ar-alwad yn unig.

 

Dilynwch ni