Mae ymarfer corff yn elfen bwysig o wella Iechyd Meddwl, yr ymchwiliwyd yn helaeth iddi.
Mae'r Gwasanaeth Ffisiotherapi yn annog pobl i gymryd rhan gan ddibynnu ar eu gallu a'u hangen.
Anogir pob claf i gyfranogi mewn ymarfer corff i fynd i'r afael â lles corfforol a seicolegol yn ogystal ag unrhyw faterion iechyd cyffredinol fel rheoli pwysau.
Asesu
Mae asesiad cychwynnol yn gyfannol, gyda nodau'n cael eu trafod a'u cytuno gyda'r defnyddiwr gwasanaeth i ddatblygu cynllun triniaeth wedyn.
Mathau o driniaeth
- Gwasanaeth ar wardiau iechyd meddwl ac, ar ôl rhyddhau, gellir darparu unrhyw driniaeth ddilynol angenrheidiol ar sail claf allanol.
- Gwaith yn y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.
- Byddwn yn gweld defnyddwyr gwasanaeth gartref os oes nam ar symudedd, gydag adsefydlu dilynol, gan gyfeirio at wasanaethau ffisiotherapi neu gymunedol eraill fel sy'n briodol.
- Efallai hefyd y darperir hyfforddiant i gynorthwyo gofalwyr gydag agweddau ar drin neu adsefydlu corfforol parhaus.
- Therapïau cyflenwol fel aciwbigo a thylino Indiaidd y pen.
- 12 wythnos o raglen ymarfer gyda chymorth mewn canolfannau hamdden awdurdod lleol ledled Caerdydd a'r Fro, a ddarperir gan hyfforddwyr technegol sy'n wybodus a phrofiadol iawn ynghylch ymarfer corff a phryderon iechyd meddwl.
Dull Seicolegol
Defnyddia'r Gwasanaeth Ffisiotherapi ddull cyfannol o gefnogi pobl yn eu gwellhad, nid yn unig drwy drin symptomau ond hefyd drwy helpu i fagu cadernid ac adennill ymdeimlad o hunanfeistrolaeth.
- Egwyddorion therapi ymddygiadol gwybyddol ac egwyddorion cyfweld cymhelliant i helpu i gael ymdeimlad o obaith y gall pethau wella neu i helpu i reoli pryder a chyflawni gwell canlyniadau i'n triniaethau craidd.
- Grŵp Ymwybyddiaeth Ofalgar sy'n ceisio helpu pobl i reoli symptomau poen cronig ochr yn ochr â'u pryderon iechyd meddwl. Ceir atgyfeiriadau gan y gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd yn ogystal â thrwy'r Clinig Poen.
Cyswllt