Oherwydd Covid-19 ac yn sgil cyngor gan GIG Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, mae'r Gwasanaeth Cyfun Awtistiaeth wedi gwneud newidiadau dros dro i'r gwasanaeth.
Mae pob grŵp ac apwyntiad wyneb yn wyneb wedi'i ganslo hyd nes clywch yn wahanol.
Cymorth unigol
Rydym ni'n parhau i roi cymorth unigol i gleientiaid presennol a chleientiaid newydd ac rydym ni'n derbyn atgyfeiriadau o hyd. I osgoi apwyntiadau wyneb yn wyneb, mae'r cymorth hwn yn cael ei roi ar hyn o bryd trwy alwadau ffôn, negeseuon e-bost a galwadau fideo, yn ôl yr hyn sy'n well gan yr unigolyn. Rydym ni'n gweld nifer cyfyngedig o bobl wyneb yn wyneb, ar sail angen.
Cymorth grŵp
Rydym ni wedi bod yn adolygu sut i roi cymorth grŵp yn rhithwir ac rydym ni'n ystyried nifer o opsiynau. Rydym ni'n gobeithio cynnig ein Grŵp Ôl-ddiagnostig yn rhithwir cyn bo hir i bobl ar ein rhestr aros.
Asesiadau Diagnostig
Rydym ni'n derbyn atgyfeiriadau ar gyfer asesiadau diagnostig o awtistiaeth o hyd, ond darllenwch y wybodaeth ar y wefan hon am asesiadau diagnostig ac ystyriwch a oes rheswm da dros atgyfeirio. Rydym bellach yn cwblhau asesiadau diagnostig wyneb yn wyneb, ond yn adolygu'r sefyllfa hon yn rheolaidd.
Sylwch fod ein rhestr aros bresennol ar gyfer asesiadau diagnostig wedi cynyddu bellach i 18 mis a gall hon barhau i gynyddu. Mae'n ddrwg gennym am y cyfnod aros hir hwn; rydym yn cydnabod bod hyn yn siomedig ac yn rhwystredig. Sylwch, efallai na fydd y Gwasanaeth Cyfun Awtistiaeth yn gallu ymateb i ymholiadau am pryd y gallwch ddisgwyl cael eich gweld.
Os oes arnoch angen cefnogaeth tra byddwch chi'n aros, er enghraifft help gyda gorbryder neu hwyliau isel, siaradwch â'ch meddyg teulu fel y gallwch gael eich atgyfeirio i'r gwasanaeth priodol.
Adnoddau
Cewch restr o adnoddau defnyddiol yn ymwneud â Covid-19 ar wefan ASD Info Wales. https://www.asdinfowales.co.uk/cy
Os ydych chi'n chwilio am wybodaeth benodol, mae pob croeso i chi gysylltu â ni.
Cysylltu â ni
Rydym yn parhau i ymateb i alwadau ffôn a negeseuon e-bost rhwng 9.30am a 4.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 9.30am a 4pm dydd Gwener.
Ar hyn o bryd, rydym ni'n defnyddio rhif ffôn symudol dros dro. I siarad â'r Gwasanaeth Cyfun Awtistiaeth, ffoniwch 07970 647820 neu gallwch gysylltu â ni drwy'r e-bost ar cav.ias@wales.nhs.uk.
Gwybodaeth am y Broses
Ar hyn o bryd (Mawrth 2021), mae 18 mis o aros. Fodd bynnag, oherwydd y galw sylweddol ar asesiadau, mae'r amseroedd aros yn cynyddu felly gall y cyfnod aros fod yn hwy na hyn.
Cyn yr asesiad, bydd dau holiadur cyn asesu'n cael eu dosbarthu i'w cwblhau gan y sawl sy'n cael ei asesu a chan rhywun sy'n ei adnabod yn dda.
Mae'r asesiad yn cynnwys 1-2 apwyntiad gyda dau Glinigydd. Gallai'r asesiad llawn gymryd hyd at 5 awr.
Ni fydd llawer o bobl sy'n cael eu hatgyfeirio i'w hasesu yn bodloni'r meini prawf diagnostig, er bod ganddynt nodweddion/ymddygiadau sy'n gorgyffwrdd ag awtistiaeth. Rydym yn cydnabod y gall fod yn siomedig iawn i rai pobl os nad ydynt yn cael diagnosis.