Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Anaf Ymennydd Cymunedol

Mae'r Tîm Anaf Ymennydd Cymunedol (CBIT) yn gweithio o Ysbyty Rookwood, Caerdydd. Gweithiwn ar draws ardal ddaearyddol eang; ein ffin yw ffin Awdurdod Iechyd blaenorol Bro Taf: Caerdydd, rhannau o Fro Morgannwg, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Cysylltu â Ni

Ein tîm amlbroffesiwn

  • Arweinydd Clinigol / Nyrs Arbenigol 
  • Gweinyddwr
  • Seicolegydd Clinigol
  • Ffisiotherapydd
  • Therapydd Galwedigaethol
  • Therapydd Lleferydd ac Iaith
  • Hyfforddwr Adsefydlu

Meini Prawf Atgyfeirio

Rydym yn gweithio gyda chleientiaid sydd ag ystod eang o namau a galluoedd yn dilyn Anaf Ymennydd Caffaeledig. Mae ein cleientiaid yn cynnwys pobl ag:

  • Anaf Ymennydd Trawmatig
  • Niwed Anocsig i'r Ymennydd
  • Enceffalitis
  • Gwaedlif is-arachnoid
  • Tiwmor (Nad yw'n ddirywiol/cynyddol)

Ein gwerthoedd

  • Dull rhyngddisgyblaethol cynhwysfawr.
  • Mynediad cyfartal i'r holl gleientiaid, ar sail eu hanghenion unigol.
  • Asesiad a thriniaeth ar sail unigol.
  • Dull amlasiantaeth ar y cyd o fodloni anghenion ein grŵp cleientiaid, gan sicrhau felly y darperir gwasanaeth integredig a di-dor. 
  • Cydweithio agos â'r sector gwirfoddol.
  • Cydran gref o gleient a theulu/gofalwr.

Ein Nodau

  • Lleihau anabledd gymaint ag sy'n bosibl, hyrwyddo annibyniaeth a hwyluso addasiad seicogymdeithasol.
  • Cefnogi'r cleient / teulu / gofalwr yn y broses o addasu i'w amgylchiadau drwy ddarparu ymyriadau, gwybodaeth a chyngor priodol, a gyflawnir drwy fonitro ac adolygu rheolaidd.  
  • Bod yn adnodd i weithwyr iechyd proffesiynol eraill fel y tîm iechyd sylfaenol, drwy ddarparu cyngor ac addysg ffurfiol ac anffurfiol. 

Deallwn fod Anaf Ymennydd Caffaeledig yn cael effaith ar y teulu cyfan ac felly mae gofalwyr ac aelodau'r teulu yn cael eu cynnwys ym mhob agwedd ar y broses adsefydlu. Gallwn ddarparu: 

  • Cwnsela un ac un 
  • Therapi/cymorth teuluol
  • Grwpiau cymorth gofalwyr
  • Pecyn gwybodaeth a chyngor ar y gwasanaethau sydd ar gael
Dilynwch ni