Neidio i'r prif gynnwy

Meini Prawf Atgyfeirio Niwroseicoleg Glinigol

Dim ond gan Niwrolawfeddygon Ymgynghorol, Niwrolegwyr, Nyrsys Arbenigol, Meddygon Adsefydlu a Niwroseicolegwyr eraill BIP Caerdydd a'r Fro y derbynnir atgyfeiriadau. Efallai y byddwn yn ystyried atgyfeiriadau gan feddygon teulu os yw un o'r gweithwyr proffesiynol a restrir uchod yn gweithio ar hyn o bryd gyda'r defnyddiwr gwasanaeth.

Gwasanaethau rhanbarthol yw rhai o'r gwasanaethau sy'n gweithio gyda ni ac efallai bydd Niwroseicolegwyr yn gweld pobl sy'n byw yng Nghaerdydd a'r Fro a phobl o fyrddau iechyd eraill ledled Cymru.

Gwasanaethau gyda Chyfraniad Niwroseicoleg

Cleifion Mewnol

  • Wardiau Niwroleg a Niwrolawdriniaeth, Ysbyty Athrofaol Cymru
  • Uned Niwroadsefydlu, Ysbyty Rookwood

Cleifion Allanol

  • Rhaglen Llawdriniaeth Epilepsi, YAC
  • Clinig Cleifion Allanol Niwrolawdriniaeth, YAC
  • Clinig Cleifion Allanol Niwroleg, YAC
  • Gwasanaeth Llid Niwrolegol / Gwasanaeth MS, YAC
  • Gwasanaeth Anhwylder Trawiadau Nad ydynt yn Rhai Epileptig, Ysbyty Rookwood
  • Tîm Anafiadau Ymennydd Cymunedol, Ysbyty Rookwood
Dilynwch ni