Os oes gennych unrhyw symptomau Covid-19, naill ai un neu fwy o'r rhestr estynedig o symptomau neu un o fwy o'r tri phrif symptom, dylech archebu prawf drwy'r GIG. Gallwch wneud hyn ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen ar y dudalen hon, neu drwy ffonio 119. Wrth drefnu prawf ar-lein oherwydd y rhestr ehangach o symptomau dylai trigolion Caerdydd a Bro Morgannwg ddewis yr opsiwn "gofynnodd eich cyngor lleol i chi gael prawf".