Mae'r cynllun cymorth hunanynysu ar waith yng Nghymru ar gyfer y rhai na allant weithio gartref ac y mae’n rhaid iddynt hunanynysu. Mae hefyd ar gyfer rhieni a gofalwyr ar incwm isel gyda phlant sy'n hunanynysu. Os ydych wedi profi'n bositif am Covid-19 gallwch wneud cais am y cymorth hwn drwy eich cyngor lleol neu drwy app Covid-19 y GIG.