Neidio i'r prif gynnwy

A oes angen i mi archebu prawf os ydw i wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi profi'n bositif am Covid-19?

Rydym bellach yn profi pawb a nodwyd fel cyswllt agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif am coronafeirws. Os bydd hyn yn berthnasol i chi, bydd y tîm POD yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

Pan fydd pobl yn cael eu hadnabod fel cyswllt gan POD, bydd y tîm yn cysylltu â nhw ac yn eu cynghori i hunanynysu ac archebu prawf. Yna gofynnir iddynt gymryd ail brawf hyd at saith diwrnod yn ddiweddarach

Bydd hyn yn ein helpu i adnabod mwy o bobl sydd â coronafeirws a'u cysylltiadau agos. Mae gwneud hynny'n golygu y gallwn dorri cadwyni trosglwyddo ac atal y feirws rhag lledaenu. 

Os cysylltir â chi, dylech gofio nad yw cymryd prawf yn ddewis arall yn lle hunanynysu. Os ydych wedi cael eich adnabod fel cyswllt agos, mae'n bwysig iawn eich bod yn cwblhau'r 10 diwrnod o hunanynysu a gwneud y ddau brawf.

Os oes gennych brawf negyddol, nid yw hyn yn golygu y gallwch fynd yn ôl i'r gwaith neu'r ysgol.

Dilynwch ni