Neidio i'r prif gynnwy

Paratoi ar gyfer Llawdriniaeth

I baratoi ar gyfer eich derbyn i'r ysbyty, rhaid i chi ddilyn yr holl gyfarwyddiadau isod yn ofalus ar gyfer hunanynysu am 14-DIWRNOD.

Gwnewch y canlynol:

  • Ynyswch o fewn ffiniau eich cartref. Os na fydd aelodau'ch teulu yn gallu ynysu, rhaid i chi aros mewn ystafell ar wahân a defnyddio cyfleusterau golchi a bwyta ar wahân. Paratowch eich prydau bwyd eich hun a defnyddiwch eich llestri eich hun, lle bo'n bosibl.
  • Osgowch gyswllt â rhywun sy'n dangos symptomau COVID-19 yn llwyr (mae'r symptomau hyn yn cynnwys tymheredd uchel a/neu beswch newydd parhaus a/neu golli blas neu arogl).
  • Ar ddiwrnod eich derbyn i'r ysbyty, teithiwch gyda rhywun o'ch cartref eich hun. Os na fydd hyn yn bosibl, teithiwch gydag aelod o'ch teulu sydd ddim yn hunanynysu neu defnyddiwch Dacsi. Sicrhewch eich bod yn gwisgo masg a'ch bod yn eistedd yng nghefn y cerbyd, ar yr ochr arall i'r gyrrwr.
  • Gwisgwch y masg llawfeddygol sy'n cael ei ddarparu yn ein Clinig Asesu Cyn Llawdriniaeth ar gyfer eich taith i'r Ysbyty.
  • Rhowch eich rhif ffôn cyswllt diweddaraf i ni.

 

PEIDIWCH Â:

  • Gadael eich cartref oni bai bod hynny'n argyfwng neu i gael triniaeth feddygol mewn argyfwng. Mae hyn yn cynnwys gwneud ymarfer corff neu fynd â'r ci am dro.
  • Cyfarfod â ffrindiau a theulu sydd ddim yn byw yn eich cartref gyda chi.
  • Defnyddio cludiant cyhoeddus (bws/trên). Defnyddiwch Dacsi os nad oes gennych gludiant arall i'r ysbyty. Os oes angen Cludiant yr Ysbyty arnoch chi, rhowch wybod i'r tîm.
  • Mynd allan i brynu cyflenwadau a meddyginiaethau; sicrhewch fod y rhain yn cael eu danfon i'ch cartref.
  • Mynd i ddigwyddiadau torfol e.e. priodasau a seremonïau torfol.

 

Gallwch gael eich derbyn ar gyfer eich triniaeth dim ond os nad ydych chi (ac aelodau'ch aelwyd) wedi cael symptomau haint Covid-19, os ydych wedi hunanynysu gan ddilyn y cyfarwyddiadau uchod ac os ydych chi wedi cael swab negatif ar gyfer Covid-19. Os byddwch chi (neu aelod o'ch aelwyd) yn datblygu symptomau Covid-19, os na fyddwch yn ynysu'n ddigonol neu os cewch swab positif, er diogelwch pawb, bydd eich triniaeth yn cael ei gohirio hyd nes gallwn ni fod yn siwr ei bod hi'n ddiogel i ni fwrw ymlaen.

Dilynwch ni