Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Brys a'r Uned Mân Anafiadau

Mae ein gwasanaethau brys (gan gynnwys 999) yn agored ac yn weithredol. Os oes gennych gyflwr sy'n bygwth bywyd neu aelod o'ch corff, ffoniwch 999 neu ewch i'r Uned Achosion Brys yn y ffordd arferol.

O ran cyflyrau eraill, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn gweithredu system ffonio'n gyntaf o'r enw CAV 24/7 ar gyfer cleifion y mae angen iddynt ymweld â'r Uned Achosion Brys (A&E) neu'r Uned Mân Anafiadau er mwyn eich cadw'n ddiogel a'ch helpu i gael y gwasanaeth mwyaf priodol i'ch anghenion. Os nad oes arnoch angen ymateb 999 brys ac ni allwch gael eich rheoli gan eich meddyg teulu neu wasanaethau cymunedol eraill, dylech ffonio 0300 10 20 247.

Bydd triniwr galwadau'n derbyn yr alwad ac yn gwneud asesiad cychwynnol. Bydd clinigwr yn eich ffonio'n ôl o fewn 20 munud os yw'ch anghenion yn frys neu 60 munud os ydynt yn llai brys. Os bydd angen, rhoddir apwyntiad i chi yn yr Uned Achosion Brys, yr Uned Mân Anafiadau, Canolfan Gofal Brys, neu gyfleuster gofal iechyd priodol arall. Darllenwch fwy am CAV 24/7.

Dilynwch ni