Neidio i'r prif gynnwy

Meddygfeydd Teulu

Mae ein meddygfeydd yn dal i fod ar agor, ond gall y ffordd y byddwch yn gweld eich meddyg teulu fod yn wahanol. Pan fydd angen, bydd apwyntiad wyneb yn wyneb ar gael ond efallai y cynigir ymgynghoriad dros fideo, e-bost neu ffôn i chi yn lle hynny. Yn dibynnu ar eich angen, efallai y gofynnir i chi siarad ag aelod arall o'n tîm Gofal Sylfaenol a allai fod yn fwy addas i'ch helpu.

Bydd y Derbynnydd Meddyg Teulu yn gofyn cyfres o gwestiynau i chi am eich cyflwr, i helpu i sicrhau eich bod yn gweld y person iawn, y tro cyntaf. Mae hyn oherwydd y gallai'r person iawn ar gyfer eich cyflwr fod yn aelod arall o'n tîm Gofal Sylfaenol. Gallwch ddarganfod mwy am ein tîm Gofal Sylfaenol a phwy yw eich Dewis Sylfaenol, trwy edrych ar y dudalen we bwrpasol hon.

Mewn meddygfeydd, fe'ch cynghorir o hyd i wisgo mwgwd yn yr ystafelloedd aros ac ymgynghori a dilyn unrhyw ganllawiau sydd gan y feddygfa. Mae hyn er mwyn eich diogelu chi, cleifion eraill a staff y feddygfa.

 

Dilynwch ni