Neidio i'r prif gynnwy

Deintyddion

Bydd practisau deintyddol y GIG ledled Caerdydd a’r Fro yn parhau i ddarparu gofal deintyddol yn unol â Chanllawiau Deintyddol Llywodraeth Cymru.

Os ydych yn dymuno cofrestru gyda deintydd y GIG ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg, gallwch bellach gofrestru ar restr aros y Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol. Gallwch gael mynediad at y ffurflen gofrestru drwy glicio yma*. Ar ôl llenwi’r ffurflen hon, cewch eich ychwanegu’n awtomatig at y rhestr aros a bydd practis ger eich cyfeiriad cartref yn cysylltu â chi pan fydd lle ar gael.

Os oes angen triniaeth neu gyngor deintyddol brys arnoch, gallwch ffonio ein llinell ddeintyddol frys ar 0300 10 20 247.

*Sylwer, mae’r ffurflen hon ar gyfer trigolion Caerdydd a’r Fro yn unig.

Dilynwch ni