Neidio i'r prif gynnwy

Fferyllfeydd Cymunedol

Bydd fferyllfeydd ar agor yn ôl yr arfer a nhw ddylai fod yn ddewis sylfaenol i chi am gyngor ar fân anhwylderau. Cofiwch wisgo masg a chadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol wrth ymweld â’ch fferyllfa.

I gael cyngor, gwybodaeth neu feddyginiaeth dros y cownter ar gyfer mân salwch, eich fferyllydd cymunedol ddylai fod eich Dewis Sylfaenol.

Mae gan fferyllwyr cymunedol wybodaeth helaeth am feddyginiaethau, sut maent yn gweithio, sut i’w cymryd, sut allent effeithio arnoch, a sut maent yn rhyngweithio â chyffuriau eraill.

Gallwch hefyd gael mynediad at ystod o wahanol wasanaethau mewn fferyllfeydd cymunedol ar draws Caerdydd a’r Fro, gan gynnwys y Gwasanaeth Rhoi’r Gorau i Smygu, y Gwasanaeth Dulliau Atal Cenhedlu Drwy’r Geg, a’r Gwasanaeth Mân Anhwylderau.

I ddod o hyd i'ch fferyllydd cymunedol lleol, y gwasanaethau a ddarperir ganddynt a'u horiau agor, ewch i'r dudalen we hon trwy glicio yma.

Dilynwch ni