Neidio i'r prif gynnwy

Statws y Gwasanaeth

Mae ein gwasanaethau a gafodd eu gohirio o ganlyniad i’r pandemig bellach wedi ailddechrau, er y gallai’r ffordd y caiff y gwasanaethau eu cynnal fod wedi newid i’n helpu i sicrhau ein bod yn cadw ein staff a’n cleifion yn ddiogel.

Mae effaith y pandemig wedi arwain at amseroedd aros hirach, ac rydym yn deall pa mor anodd yw hi i unigolion sy’n aros amser hir am driniaeth. Mae ein gwasanaeth iechyd yn parhau i fod dan bwysau aruthrol yn sgil y lefelau uchel o alw ar wasanaethau, ac mae’r pwysau parhaus hwn yn parhau i gyflwyno heriau i’r ffordd yr ydym yn darparu gofal.

Yn yr un modd â sefydliadau eraill y GIG, byddwn yn trefnu triniaethau cleifion yn nhrefn eu blaenoriaeth o safbwynt clinigol. Fel Bwrdd Iechyd, rydym wedi datblygu rhaglen arloesol o brosiectau i helpu ein gwasanaethau i wella ar ôl y pandemig ac i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gofal. Mae ein timau yn parhau i weithio’n ddiflino i gynnig gweithgarwch ychwanegol, gan gynnwys ar benwythnosau, i helpu i leihau amseroedd aros am driniaeth.

Cliciwch ar y delweddau isod i ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am ein gwasanaethau.

Gwybodaeth am Ofal wedi'i Gynllunio GIG 111 Cymru - I gael gwybodaeth am amseroedd aros ysbytai gan gynnwys cymorth pan fyddwch yn aros a data ar amseroedd aros, ewch i wefan GIG 111 Cymru drwy glicio yma.

Dilynwch ni