Diolchwch iddo am rannu beth sy'n digwydd gyda chi. Anogwch ef i fod yn agored ac yn onest trwy ddweud bod hynny'n beth cadarnhaol iawn a chydnabyddwch sut mae'n teimlo.
Dywedwch wrtho eich bod yn ei garu, eich bod yno i'w gefnogi a'i fod yn gallu siarad â chi. Rydych yn gwrando ac yn barod i helpu a gwrando mwy pan fydd angen hynny arno.
Gofynnwch a oes unrhyw beth y gallwch ei wneud i helpu neu unrhyw beth y gall rhywun arall ei wneud i helpu.
Treuliwch amser gyda'ch gilydd yn meddwl am beth sy'n gwneud iddo deimlo fel hyn. Trafodwch a oes unrhyw newidiadau a allai fod wedi gwneud iddo deimlo fel hyn a meddyliwch am y pethau y gallwch eu gwneud i helpu.
Rhowch wybod i'ch plentyn am y llinellau cymorth, y llinellau neges destun a'r gwasanaethau sgwrsio ar-lein sydd ar gael os oes angen iddo siarad â rhywun o'r tu allan i'r teulu. Mae rhestr o'r rhain ar gael uchod yn yr adran Plant a Phobl Ifanc.
Os ydych yn credu bod angen cymorth proffesiynol ar eich plentyn i deimlo'n well, gallwch siarad ag ysgol neu feddyg teulu eich plentyn, a fydd yn gallu eich cynghori ar sut i gael gwasanaethau iechyd meddwl. Gyda'ch gilydd, gallwch drafod p'un a oes angen atgyfeiriad i'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS), asesiad gan arbenigwr iechyd meddwl, neu atgyfeiriad ar gyfer cymorth o fath arall. Gallwch siarad â'ch meddyg teulu, ysgol neu ganolfan blant leol gyda'ch plentyn neu hebddo.
CAMHS yw'r enw ar wasanaethau'r GIG sy'n cynorthwyo plant a phobl ifanc gyda'u lles emosiynol a'u hiechyd meddwl.
Mae gwasanaethau CAMHS y GIG ar gael ledled Cymru, gyda thimau lleol sy'n cynnwys staff cyfeillgar a chefnogol. Bydd yr aelodau staff hyn yn cynnwys nyrsys, therapyddion, seicolegwyr, seiciatryddion plant a'r glasoed (meddygon sy'n arbenigo mewn iechyd meddwl), gweithwyr cymorth a gweithwyr cymdeithasol, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill.
Mae CAMHS yn darparu cymorth ar gyfer llawer o wahanol fathau o gyflyrau neu faterion y gall plant a phobl ifanc eu profi, gan gynnwys iselder, problemau â bwyd, hunan-niweidio, camdriniaeth, trais neu ddicter, anhwylder deubegynol, sgitsoffrenia a gorbryder, ymhlith anawsterau eraill.
Os oes angen cymorth emosiynol ar eich plentyn a help i wneud synnwyr o'i deimladau, fe allai elwa o weld cwnselydd neu therapydd. Efallai y gallwch gael y gwasanaeth hwn am ddim trwy eich meddyg teulu neu ysgol eich plentyn. Os gallwch ei fforddio, fe allech ystyried cwnselydd plentyn preifat hefyd. Cysylltwch â'ch tîm CAMHS lleol i gael gwybod mwy am gael gwasanaethau cwnsela.