Neidio i'r prif gynnwy

Sut gallaf wybod os yw rhywbeth o'i le?

Mae tua 1 o bob 8 o blant a phobl ifanc yn cael problemau ymddygiadol neu emosiynol wrth iddynt dyfu. I lawer, bydd y rhain yn gwella ymhen amser, ond bydd angen cymorth proffesiynol ar eraill.

  • Fel rhiant, fe all fod yn anodd iawn gwybod a oes rhywbeth sy'n gofidio'ch plentyn, neu efallai a yw'n hwyliau ansad neu'n arwydd o newid hormonaidd/datblygiadol. Mae ffyrdd o sylwi pan fydd rhywbeth o'i le. Dyma rai pethau i gadw llygad amdanynt:
  • Newidiadau sylweddol mewn ymddygiad, sy'n groes i gymeriad eich plentyn.
  • Trafferth barhaus i gysgu a chyfnodau o ludded yn ystod y dydd.
  • Mynd i'w gragen a thynnu'n ôl o sefyllfaoedd cymdeithasol.
  • Dim eisiau gwneud y pethau y byddai'n hoffi eu gwneud fel arfer.
  • Hunan-niweidio. Gallai hyn gynnwys gwneud cytiau bach trwy grafu neu ddefnyddio rhywbeth miniog, tynnu gwallt allan, pwl ymosodol o'i ddyrnio a'i daro ei hun.
  • Ei esgeuluso ei hun, dim eisiau ymolchi, glanhau ei ddannedd na newid ei ddillad mwyach.
  • Newid mewn arferion bwyta, amharodrwydd i fwyta, cuddio bwyd neu orfwyta ac yna bod yn sâl neu chwydu.
  • Mynegi teimladau o bryder yn rheolaidd, dim eisiau cael ei wahanu oddi wrth riant neu ofalwr, dim eisiau mynd i'r ysgol mwyach na gadael y tŷ yn aml.  

Y peth pwysicaf i'w gofio yw chi sy'n adnabod eich plentyn orau. Os ydych yn poeni, meddyliwch a fu newid sylweddol yn ei ymddygiad sydd wedi para am gyfnod hir. Gallai hyn fod gartref, yn yr ysgol neu'r coleg; gydag eraill neu ar ei ben ei hun; neu mewn perthynas â digwyddiadau neu newidiadau penodol yn ei fywyd, gan gynnwys newidiadau a achoswyd gan y pandemig.

Os ydych yn pryderu neu'n ansicr, mae llawer o gymorth ar gael, gan gynnwys cymorth proffesiynol. Mae www.dewis.wales yn lle da i ddod o hyd i wasanaethau yn eich ardal. Gallwch hefyd gysylltu â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a'ch Canolfan Blant leol. Mae safleoedd eraill defnyddiol yn cynnwys:

Dyma rai dolenni a gwasanaethau defnyddiol i blant a phobl ifanc: https://cavuhb.nhs.wales/ein-gwasanaethau/gwasanaethau-iechyd-plant-pobl-ifanc-a-theuluoedd/cypf-emotional-wellbeing-mental-health/resources-and-useful-links/

Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Person Ifanc Hwb

Fe welwch chwe rhestr chwarae yma i'ch cyfeirio at ystod eang o adnoddau ar-lein i'ch helpu trwy'r cyfnod clo a thu hwnt. Mae pob un o'r rhestrau chwarae'n cynnwys gwefannau hunangymorth, apiau, llinellau cymorth a mwy sydd ar gael i gefnogi'ch iechyd meddwl a'ch lles. https://hwb.gov.wales/repository/discovery/resource/e53adf44-76cb-4635-b6c2-62116bb63a9a/en?_ga=2.151518460.459291157.1604913013-1431377124.1568902089

CALM HARM: Ap symudol i helpu pobl yn eu harddegau i wrthsefyll neu reoli'r awydd i hunan-niweidio (Am ddim)

 

 

 

CHILDLINE: www.nspcc.org.uk 0800 1111

HARMLESS: Mae'n cynnig cyngor a gwybodaeth ynghylch pobl ifanc a allai fod yn hunan-niweidio neu'n meddwl am wneud hynny. www.harmless.org.uk

YOUNGMINDS: www.youngminds.org.uk  0808 802 5544

SELF HARM UK: Mae'n cynnig lle ar-lein i siarad a gofyn cwestiynau am bryderon yn eu bywyd. www.selfharm.co.uk

RETHINK MENTAL ILLNESS: www.rethink.org 0300 5000 927

Y Rhwydwaith Hunan-niwed Cenedlaethol: Mae'r NSHN yn fforwm ar-lein sy'n caniatáu i chi siarad â phobl eraill mewn amgylchedd diogel sy'n cael ei reoli.  www.nshn.co.uk

THE MIX: 0808 808 4994

PAPYRUS: Papyrus HOPElineuk 0800 068 41 41 www.papyrus.org.uk

YOUNGMINDS CRISIS MESSENGER: Tecstiwch YM i 85258 i gael cymorth am ddim 24/7  

HEADSPACE: Ap ymwybyddiaeth ofalgar sy'n cynnwys llawer o wahanol raglenni i gefnogi iechyd meddwl.

SANE: Mae Saneline ar gael o 4.30pm tan 10.30pm bob dydd ar gyfer cymorth iechyd meddwl 0300 304 7000

WELLMIND: Datblygwyd yr ap hwn gan y GIG ac mae'n helpu gyda symptomau gorbryder ac iselder. Mae'n ffordd wych o gadw golwg ar eich meddyliau a'ch teimladau.

CATCH THAT THOUGHT: Mae'r ap hwn yn wych i fonitro meddyliau ac emosiynau anodd, pryd rydych chi'n eu profi a ble.

THE STRESS AND ANXIETY COMPANION: Mae'r ap hwn yn annog meddwl yn gadarnhaol trwy ei broses therapi gwybyddol ymddygiadol syml ac mae'n eich helpu i ddeall sbardunau.

THRIVE: Mae'r ap hwn yn eich helpu i gasglu eich meddyliau a deall eich emosiynau.

MEIC: MEIC yw'r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O gael gwybod beth sy'n digwydd yn eich ardal leol i gael cymorth i ddelio â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando hyd yn oed pan fydd neb arall. Ni fyddwn yn eich beirniadu a byddwn yn helpu trwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a'r cymorth y mae arnoch ei angen i newid - https://www.meiccymru.org/

Mind: http://www.mind.org.uk/

 

Dilynwch ni