Neidio i'r prif gynnwy

Sut gallaf helpu fy mhlentyn?

Byddwch yno i wrando

Mae'n bwysig gofyn i'ch plentyn yn rheolaidd sut mae'n teimlo, er mwyn iddo ddod yn gyfarwydd â siarad am ei deimladau a gwybod bod rhywun yno i wrando bob amser os yw eisiau siarad. Gall creu lle difyr helpu yn hyn o beth. Mae rhai rhieni'n gweld bod eu plant yn gallu bod yn fwy agored am eu teimladau yn ystod gweithgareddau. Gallai hyn gynnwys pobi, celf a chrefft, chwaraeon, gemau bwrdd, darllen storïau a siarad amdanyn nhw wedi hynny.

Y peth pwysig yw ceisio ymgysylltu â'ch plentyn a rhoi eich amser iddo heb i unrhyw beth dynnu'ch sylw. Bydd rhoi sylw i'w emosiynau a'i ymddygiad yn eich helpu i nodi newidiadau pwysig a deall ei anghenion yn well. 

Byddwch yn rhan o'i fywyd

Mae llawer o blant a phobl ifanc yn gweld bod eu hyder yn cynyddu a'u bod yn teimlo bod cefnogaeth iddynt pan fydd rhiant yn dangos diddordeb yn eu bywyd a'r pethau sy'n bwysig iddynt. Mae hynny nid yn unig yn eu helpu i werthfawrogi pwy ydynt ond hefyd yn ei gwneud yn haws i chi sylwi ar broblemau a'u cynorthwyo.

Anogwch ei ddiddordebau

Un o'r ffyrdd gorau o helpu i gadw iechyd emosiynol eich plentyn ar y trywydd iawn yw trwy ei gefnogi i aros yn egnïol, dysgu sgiliau newydd a chadw mewn cysylltiad â'i gymuned a'i ffrindiau. Gan ein bod yn treulio mwy o amser gyda'n gilydd gartref, mae'n gyfle gwych i siarad â'ch plentyn am ei ddiddordebau a beth mae'n ei fwynhau. Yna gallwch feddwl am ffyrdd o'i gefnogi â'r diddordebau hynny. Yn aml iawn, nid oes rhaid i'r pethau hyn fod yn ddrud, ac mae'n debygol y bydd eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol yn gallu dweud wrthych beth sydd ar gael am ddim ac am bris rhesymol yn eich ardal. Bydd gan ysgolion, colegau a'ch awdurdod lleol syniadau da hefyd neu efallai gallant gael gafael ar bethau a fydd yn cefnogi diddordebau eich plentyn.

Ystyriwch yr hyn mae'n ei ddweud o ddifrif

Mae gwrando ar eich plentyn a gwerthfawrogi'r hyn mae'n ei ddweud, heb feirniadu ei deimladau, yn gwneud iddo deimlo'n werthfawr ac yn cynyddu ei ymddiriedaeth a'i hyder yn eich perthynas. Nid yw hyn bob amser yn rhwydd. Weithiau, pan fydd eich plentyn yn disgrifio sut mae'n teimlo, fe all hynny fod yn anodd ei glywed, neu'n anodd ei dderbyn hyd yn oed. Yn enwedig pan fyddwn ni'n ei glywed am y tro cyntaf. Y peth pwysig yw peidio ag ymateb yn syth na diystyru teimladau'r plentyn, ond gwrando'n ddigyffro a dangos eich bod yn cymryd sylw ac eisiau helpu. Mae'n beth da siarad am y rhesymau pam y gallai fod yn teimlo fel yna, ond cofiwch nid yw llawer o blant a phobl ifanc yn gwybod pam, ond maen nhw'n gwybod sut maen nhw'n teimlo. Mae'n beth da siarad am beth maen nhw'n credu allai helpu a beth rydych chi'n credu fydd yn helpu, a rhai pethau y gallwch roi cynnig arnynt. Weithiau, gall siarad a llunio cynllun wneud gwahaniaeth mawr i'ch plentyn.

Mae'n beth da gofyn i'ch plentyn sut mae'n teimlo, ond ceisiwch adael iddo ef benderfynu faint i'w rannu. Mae'n anodd taro cydbwysedd, ond gall gofyn gormod o gwestiynau beri i blentyn fod yn amharod i rannu, felly gadewch iddo ef arwain a chynigiwch gyfleoedd rheolaidd heb unrhyw bwysau.

Sefydlwch arferion cadarnhaol

Rydym yn gwybod nad yw'n rhwydd creu arferion a strwythur ar hyn o bryd gan fod y cyfnodau clo rheolaidd a'r angen i hunanynysu yn gallu tarfu ar ein harferion. Ond mae gwaith ymchwil yn dangos bod y rhan fwyaf o blant yn teimlo'n well pan fydd trefn arferol gadarnhaol ar waith. Gall arferion a strwythurau gefnogi lles plentyn ac annog ymddygiad cadarnhaol. Lle da i gychwyn yw ailgyflwyno arferion rheolaidd gartref yn ymwneud â bwyta'n iach ac ymarfer corff. Mae noson dda o gwsg yn bwysig iawn hefyd - ceisiwch ei annog i ddychwelyd i arferion sy'n cyd-fynd â'r ysgol neu'r coleg.

Gofalwch am eich iechyd meddwl eich hun

Gall magu neu ofalu am blentyn neu berson ifanc fod yn anodd ar brydiau. Mae'n bwysig iawn gofalu am eich iechyd meddwl a'ch lles eich hun, gan y bydd hyn yn eich helpu i gefnogi'r rhai rydych yn gofalu amdanynt.

Mae adnabod a chydnabod pan fyddwch yn teimlo'n isel neu wedi'ch llethu yn gam cyntaf pwysig. Nid yw cael trafferth gyda rhywbeth neu brofi'ch problemau iechyd meddwl eich hun yn golygu eich bod yn rhiant neu'n ofalwr gwael.

Mae'n berffaith naturiol bod yn bryderus yn ystod cyfnodau anodd. Y peth pwysig yw eich bod yn cydnabod hyn. Fe allech fod yn teimlo'n orflinedig, yn emosiynol ac yn bryderus, ac os yw'r teimladau hyn yn parhau fe allai fod yn bryd meddwl am ffyrdd o ofalu am eich iechyd meddwl yn well. Gallai hyn gynnwys cael cymorth proffesiynol. Rydym wedi darparu rhywfaint o wybodaeth isod a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Mae'r Pum Cam tuag at Les yn amlinellu camau syml y gallwn ni i gyd eu cymryd i ofalu am ein hiechyd meddwl a'n lles. Gallwch hefyd ddarllen 'awgrymiadau da ar gyfer bywyd pob dydd' ar wefan yr elusen iechyd meddwl MIND a dod o hyd i ffyrdd ymarferol o ofalu am eich iechyd meddwl ar wefan y Sefydliad Iechyd Meddwl.

Gallwch hefyd ddod o hyd i adnoddau penodol ar sut i ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y pandemig COVID-19 yma: https://phw.nhs.wales/services-and teams/improvement-cymru/news-and-publications/publications/mental-health-and-wellbeing-cymru-self-help-resources-to-support-mental-health-and-wellbeing/  

Fe allai hefyd fod yn ddefnyddiol siarad â ffrind, rhiant neu ofalwr arall rydych yn ymddiried ynddo digon i rannu eich teimladau. Efallai y gallai aelod o'r teulu, ffrind neu gydweithiwr eich helpu neu ganiatáu i chi gael seibiant? Mae digon o gymorth ar gael. Ni ddylech fyth deimlo bod rhaid i chi ymdopi ar eich pen eich hun. Gweler ein cwestiynau cyffredin am Iechyd Meddwl Oedolion yma: Cwestiynau cyffredin i oedolion sy'n ceisio cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl am y tro cyntaf.

Dilynwch ni