Neidio i'r prif gynnwy

Sut gallaf ddweud wrth rywun fy mod yn ei chael hi'n anodd a bod arnaf angen cymorth?

Yn aml, gall siarad am eich teimladau gyda rhywun rydych yn ymddiried ynddo eich helpu i weld pethau'n wahanol. Efallai y bydd ganddo rai syniadau i'ch helpu i newid pethau yn eich bywyd sy'n eich poeni chi. Pan fyddwch yn siarad â rhywun ac mae'n gwybod sut rydych yn teimlo, fe all fod yn gefn i chi a chynnig cymorth parhaus.

Weithiau, mae'n helpu i fynegi pethau ar lafar. Mae dweud beth sydd ar eich meddwl yn beth da. Gallai siarad â rhywun wneud i chi deimlo nad oes rhaid i chi ddelio â'r peth ar eich pen eich hun a gwneud i bethau deimlo'n haws ymdopi â nhw.

Dyma rai pethau i feddwl amdanynt:

  • Dewiswch rywun rydych yn teimlo'n ddiogel gydag ef (gallai fod yn oedolyn rydych yn ymddiried ynddo fel athro/athrawes, meddyg teulu, rhiant/gofalwr, hyfforddwr chwaraeon, gweithiwr ieuenctid, gweithiwr cymdeithasol, rhiant eich ffrind, cwnselydd neu nyrs ysgol, cymydog ac ati)
  • Cynlluniwch beth rydych eisiau ei ddweud
  • Ceisiwch ddewis amser i siarad ag ef/hi pan nad oes unrhyw beth yn tynnu ei sylw
  • Cofiwch y gallwch ddweud cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch. Rhannwch beth sy'n teimlo'n iawn i chi ar y pryd.
  • Gallwch ofyn iddo/iddi ar ddechrau'r sgwrs i gadw'r hyn rydych chi'n ei ddweud yn breifat a pheidio â'i rannu.

Sut i ddechrau sgwrs

  • "Dwi eisiau siarad â chi am sut rwy'n teimlo."
  • "Mae'n anodd i mi siarad am hyn, ond dwi wir eisiau dweud wrthych sut dwi wedi bod yn teimlo.”
  • “Mae angen cyngor arna'i ar rywbeth sy'n fy mhoeni i.”

Os ydych chi'n dal i fod yn ansicr sut i gychwyn sgwrs, mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud:

  • Ysgrifennu llythyr
  • Siarad am rywbeth arall yn gyntaf
  • Siarad am ffrind sydd wedi profi rhywbeth tebyg i chi yn gyntaf
Dilynwch ni