Neidio i'r prif gynnwy

A oes pethau y gallaf eu gwneud i'm helpu i deimlo'n well?

Mae pethau'n rhyfedd ac yn wahanol iawn ar hyn o bryd ac mae'n gallu teimlo'n llethol weithiau. Fe allech deimlo'n bryderus neu'n ansicr, neu hyd yn oed yn drist weithiau. Mae'n bwysig cofio nad ydych ar eich pen eich hun. Rydyn ni i gyd yn cael y teimladau hyn ar wahanol adegau, yn enwedig pan fydd llawer o newid yn digwydd ac nid ydym yn gallu dilyn ein trefn arferol. Os nad yw'r teimladau hyn yn mynd i ffwrdd neu os ydynt yn digwydd yn aml, efallai y bydd angen mwy o gymorth arnoch (gweler y wybodaeth bellach isod).

Gallai rhai o'r gweithgareddau isod eich helpu i ymdopi â'r teimladau hyn a theimlo'n bositif ac yn iach.

Cadwch mewn Cysylltiad: Mae'n bwysig iawn cadw mewn cysylltiad â phobl rydych yn eu caru ac yn ymddiried ynddynt. Fe all fod yn anodd gweld pobl wyneb yn wyneb oherwydd y cyfyngiadau sydd ar waith, ond gall sgwrs gyflym dros y ffôn neu alwad rithwir eich helpu i deimlo'n agosach atynt. Gall siarad am eich teimladau neu deimlo'r normalrwydd hynny wneud i chi deimlo'n well. Mae llawer o blant a phobl ifanc nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd neu ffôn symudol wedi dechrau ysgrifennu llythyrau at anwyliaid neu wedi dod yn gyfeillion post. Mae hynny'n ffordd wych o aros  mewn cysylltiad ac yn rhywbeth y gall aelod o'ch cartref eich helpu chi i'w wneud.

Weithiau, mae'n rhwydd anghofio bod cymorth yn gallu bod yn agosach nag y tybiwch. Mae treulio mwy o amser gartref gyda theulu/gofalwyr/gwarcheidwaid yn rhoi mwy o amser i ni siarad a threulio amser gyda'n gilydd. Rydyn ni i gyd eisiau cau'r byd allan weithiau, ond gall siarad â'r bobl rydych yn byw gyda nhw bob dydd wneud i chi deimlo'n fwy positif ac yn llai unig. Mae bod yn onest â'ch teulu/gofalwyr/gwarcheidwaid ynglŷn â sut rydych yn teimlo a thrafod sut gallwch gysylltu mwy â'r bobl sy'n bwysig i chi yn gam cyntaf gwych.

Pwysig: Weithiau, nid yw'r pethau sy'n ein cadw mewn cysylltiad bob amser yn dda i ni. Gall treulio llawer o amser ar gyfryngau cymdeithasol wneud i ni deimlo'n waeth amdanom ein hunain. Er bod hynny'n gallu bod yn ffordd dda o gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, mae'n bwysig cofio nad yw'r holl ddelweddau a gwybodaeth a gyflwynir yno'n gywir nac yn wir adlewyrchiad o fywydau go iawn pobl. Os ydych chi'n dechrau gweld bod eich hwyliau'n newid pan fyddwch yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, fe allai fod yn syniad da cael seibiant ohono am ychydig ddiwrnodau a gwneud rhai o'r gweithgareddau eraill a awgrymir isod.

Byddwch yn Egnïol: Mae ymchwil wyddonol yn dweud wrthym mai un o'r ffyrdd gorau o deimlo'n dda yw gwneud ychydig o ymarfer corff. Nid yw ymarfer corff bob amser yn golygu cystadlu mewn camp, er bod hynny'n ffordd wych o deimlo'n dda. Weithiau, fe all olygu mynd am dro neu loncian, chwarae ar y cae neu yn y parc, gwneud gweithgarwch corfforol gartref neu ymarferion campfa, nofio, sgipio, rhedeg, dawnsio ac ati. Gall gwneud ychydig bach bob dydd gael effaith gadarnhaol ar eich hwyliau a gwella eich hyder.

Mae'n beth da clywed bod chwaraeon wedi'u trefnu dan do yn ailgychwyn. Gallwch gael gwybod pa glybiau chwaraeon sydd ar agor yn eich ardal ac a oes unrhyw weithgareddau am ddim y gallwch gymryd rhan ynddynt trwy gysylltu â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol. 

Daliwch Ati i Ddysgu: Mae rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu ddysgu sgìl newydd yn ffordd gadarnhaol o gadw ein meddyliau'n effro. Mae bod gartref yn gyfle da i wneud hyn. Mae llawer o bobl ifanc yn treulio mwy o amser yn darllen, tynnu lluniau/paentio/gwneud crefftau, coginio/pobi, rhoi cynnig ar offeryn newydd neu'n ymarfer canu, dysgu iaith wahanol, ymuno â chlybiau a grwpiau eraill ar-lein ac ati.

Os oes rhywbeth y credwch y byddech yn ei fwynhau, mae'n amser da i roi cynnig arno. Os oes arnoch angen ysbrydoliaeth a syniadau, siaradwch â'ch teulu a'ch ffrindiau. Gall ysgolion a cholegau roi gwybodaeth ddefnyddiol a syniadau hefyd, ac mae llawer o wybodaeth ar gael ar-lein.

Rhowch: Yn awr, efallai'n fwy nag erioed, mae cyfleoedd i gynorthwyo pobl eraill. Mae gwyddoniaeth yn dweud wrthym fod helpu rhywun arall yn gallu newid sut rydym yn teimlo amdanom ein hunain a gwella ein hwyliau a'n hyder. Mae llawer o elusennau a sefydliadau a hoffai gael eich cymorth trwy wirfoddoli, a gallwch gael gwybod am y cyfleoedd hyn trwy'ch Cyngor Gwirfoddol Lleol.

Ond cofiwch, weithiau, y pethau bach yw'r hyn sy'n gwneud gwahaniaeth. Gall neilltuo amser i helpu o gwmpas y tŷ, gwneud rhywbeth caredig, dweud diolch neu wrando ar ffrindiau a theulu/gofalwyr gael effaith gadarnhaol arnoch chi a'r unigolyn arall.  

Sylwch ar Bethau: Ffordd dda o fod yn fwy ymwybodol o'ch emosiynau yw meddwl am eich meddyliau a'ch teimladau wrth iddynt ddigwydd a sylwi ar y pethau sydd o'ch cwmpas ar yr un pryd. Enghraifft dda yw meddwl am yr hyn y gallwn ei weld, ei glywed, ei arogleuo a'i flasu, a sut rydym yn teimlo yr eiliad hwnnw. Mae llawer o bobl ifanc yn credu bod hyn yn haws i'w wneud mewn man tawel a llonydd. Bydd rhai hefyd yn ceisio arafu eu hanadl a chau eu llygaid, i'w helpu i ymlacio.

Gall neilltuo amser i wneud hyn ein helpu i beidio â meddwl gormod am rai o'r pethau sy'n digwydd yn y byd ehangach, a'n helpu i ymdopi â phryder a straen. Os hoffech ddysgu mwy, gallwch fynd i www.nhs.uk/conditions/stress-anxiety-depression/mindfulness/

Dilynwch ni