Neidio i'r prif gynnwy

Pa fath o gymorth byddaf yn ei gael gan CAMHS nawr?

Os ydych wedi cael eich atgyfeirio i CAMHS, byddwch yn cael eich rhoi ar restr aros ar gyfer eich apwyntiad cyntaf. Weithiau, gelwir yr apwyntiad hwn yn 'Apwyntiad Dewis' (sy'n aml yn ddechrau eich 'asesiad'). Does dim angen poeni; dim ond sgwrs ydyw fel arfer er mwyn i'r tîm ddod i'ch adnabod a phenderfynu ar y ffordd orau o'ch helpu.

Y newid allweddol yw y gallai'r apwyntiad hwn gael ei gynnal yn rhithwir bellach neu dros y ffôn mewn rhai achosion, ond dim ond os ydych yn fodlon ar hynny a bod gennych y dechnoleg iawn gartref i gael at y system rithwir. Os nad oes modd cwblhau'r apwyntiad yn rhithwir neu dros y ffôn, efallai y cynigir apwyntiad wyneb yn wyneb i chi, ond mae hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol a'r tîm lleol. Yn gyffredinol, bydd yr apwyntiad hwn yn cael ei gynnal mewn clinig CAMHS. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddant yn cyfarfod â chi yn yr ysgol, ond nid gartref fel arfer ar hyn o bryd. Pan fyddwch yn mynd i'ch apwyntiad, gofynnir i chi wisgo masg, golchi neu ddiheintio'ch dwylo ac aros 2 fetr i ffwrdd oddi wrth yr unigolyn agosaf.

Mae'n bwysig nodi y bydd gan rai gwasanaethau CAMHS amserau aros hirach o ganlyniad i'r pandemig presennol. Os ydych ar y rhestr aros, bydd eich Tîm CAMHS lleol yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bydd apwyntiad ar gael. Os byddwch yn dechrau teimlo'n waeth yn ystod y cyfnod hwn, gallwch gysylltu â'r tîm am gymorth a chyngor o hyd neu gysylltu â rhai o'r sefydliadau cymorth a restrir uchod. Efallai y gall eich meddyg teulu helpu hefyd a gwneud atgyfeiriad brys. Os ydych yn teimlo eich bod mewn argyfwng, gallwch ffonio 101 am gyngor, cysylltu â'ch heddlu lleol neu fynd i'r adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E) i gael gofal brys. Dim ond mewn argyfwng y dylech wneud hynny.

Yn ystod eich apwyntiad cyntaf, byddwch fel arfer yn cyfarfod ag un neu ddau aelod o'r tîm CAMHS. Os ydych yn iau nag 16 oed, gallai eich rhiant/rhieni, gwarcheidwad/gwarcheidwaid neu ofalwr/gofalwyr gael ei wahodd/eu gwahodd i ymuno ar gyfer rhan o'r cyfarfod hwn.

Pan fyddwch yn cyfarfod â'r tîm, byddant yn gofyn rhai cwestiynau i chi i'w helpu i ddeall beth rydych yn cael trafferth ag ef ac i gael gwell syniad o ba gymorth y mae arnoch ei angen.

Tua diwedd y sesiwn, bydd y tîm yn sôn am beth fydd yn digwydd nesaf a pha gymorth maen nhw'n credu y gallai fod arnoch ei angen. Cofiwch y gallwch ofyn unrhyw gwestiynau hefyd. Os nad ydych yn teimlo'n hyderus i ofyn cwestiynau, fe allai fod yn syniad da i'w hysgrifennu cyn mynd i mewn neu siarad â rhiant/gwarcheidwad/gofalwr am yr hyn rydych eisiau ei wybod cyn i chi fynychu.

Fe allech hefyd deimlo bod arnoch angen cymorth gan eiriolwr (rhywun rydych yn ymddiried ynddo yw eiriolwr, a fydd yn weithiwr proffesiynol weithiau, sy'n gallu helpu i fynegi'r hyn rydych chi'n ei feddwl a'i deimlo a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed). Bydd gwasanaethau eirioli proffesiynol ar gael yn eich ardal ac fe ddylai eich Tîm CAMHS allu rhoi gwybodaeth i chi am y rhain a gwneud atgyfeiriad ar eich rhan am gymorth. Os yw'n well gennych gyfathrebu yn Gymraeg, dylech gael cynnig asesiad a chymorth yn yr iaith honno a'ch helpu i fynegi.

Yn ystod eich apwyntiad, efallai y bydd y tîm yn sôn am 'driniaeth' neu 'Apwyntiad Partneriaeth' dilynol i drafod eich triniaeth - y cyfan y mae hyn yn ei olygu yw y byddwch yn llunio cynllun ar gyfer y gwaith y byddwch yn ei wneud gyda'ch gilydd i'ch helpu i deimlo'n well. Bydd y tîm yn trafod pryd y gallai fod angen i chi eu gweld nhw eto neu a fyddan nhw'n cwblhau unrhyw rannau eraill o'ch asesiad.

Ar ôl eich asesiad, byddwch yn cael llythyr a fydd yn dweud wrthych beth mae'ch asesiad wedi'i ddangos a pha gymorth y gallai fod arnoch ei angen, a allai gynnwys therapi a/neu feddyginiaeth. Os bydd arnoch angen cymorth pellach, bydd y tîm yn ysgrifennu atoch i gynnig apwyntiad dilynol, gan ddisgrifio beth fydd yn digwydd nesaf.

Gallai apwyntiadau dilynol gael eu cynnal yn rhithwir, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, yn dibynnu ar eich amgylchiadau a'r math o driniaeth y mae arnoch ei hangen.

Dilynwch ni