Neidio i'r prif gynnwy

Rwy'n teimlo fy mod i'n cael trafferth â'm hiechyd meddwl. Ble alla'i gael cymorth?

Os ydych yn cael amser caled neu'n poeni am sut rydych yn teimlo, rydym yn deall bod hynny'n gallu achosi ofn a gofid. Y peth pwysig i'w wybod yw nad ydych ar eich pen eich hun, a bod llawer o fannau lle gallwch gael gwybodaeth a chymorth da.

Cyngor: Os ydych chi'n teimlo'n barod i wneud hynny, ceisiwch siarad am eich teimladau gydag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo neu ffrind agos. Yn aml iawn, fe allan nhw eich helpu i gael cymorth. Os ydych yn yr ysgol neu'r coleg, bydd cymorth cyfrinachol ar gael fel arfer neu gymorth i gael gwasanaethau cymorth. Gallwch hefyd gael gwybodaeth, cyngor a chymorth trwy Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd eich Awdurdod Lleol a fydd yn gallu eich helpu i gael y cymorth y mae arnoch ei angen.

Bydd y cymorth y gallwch ei gael yn wahanol yn dibynnu ar ble rydych yn byw. Ond bydd Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) yn eich sir. CAMHS yw'r enw ar wasanaethau'r GIG sy'n cynorthwyo plant a phobl ifanc â'u lles emosiynol a'u hiechyd meddwl.

Mae gwasanaethau CAMHS y GIG ar gael ledled Cymru, ac mae timau lleol yn cynnwys staff cyfeillgar a chefnogol. Bydd yr aelodau staff hyn yn cynnwys nyrsystherapyddionseicolegwyr, seiciatryddion plant a'r glasoed (meddygon sy'n arbenigo mewn iechyd meddwl), gweithwyr cymorth a gweithwyr cymdeithasol, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill.

Mae CAMHS yn darparu cymorth ar gyfer llawer o wahanol o fathau o gyflyrau neu faterion y gall plant a phobl ifanc eu profi, gan gynnwys iselderproblemau â bwydhunan-niwedcamdriniaeth, trais neu ddicteranhwylder deubegynolsgitsoffrenia a gorbryder, ymhlith anawsterau eraill.

Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau CAMHS yn gweithio gyda'r teulu cyfan i gefnogi iechyd person ifanc. Gallai hyn olygu gofyn i rieni/gofalwyr/gwarcheidwaid ddod i apwyntiadau asesu a thriniaeth, yn dibynnu ar eich oedran ac i ba raddau rydych eisiau i'ch rhiant/rhieni/gofalwr/gofalwyr/gwarcheidwad/gwarcheidwaid fod yn rhan o'r broses.

Y cam cyntaf tuag at gael cymorth gan CAMHS fydd cael eich atgyfeirio ar gyfer asesiad CAMHS, fel arfer. Gall yr atgyfeiriad hwn gael ei wneud gan eich rhieni/gofalwyr, neu gennych chi os ydych yn ddigon hen (yn dibynnu ar ble rydych yn byw). Gall gweithwyr proffesiynol fel athro/athrawes neu feddyg teulu (bydd y rhan fwyaf o feddygfeydd yn cynnig apwyntiadau ffôn) atgyfeirio mewn rhai ardaloedd. Os ydych yn cael eich cynorthwyo gan ofal cymdeithasol, tîm ieuenctid neu wasanaeth yn eich ysgol, efallai y byddan nhw'n gallu eich atgyfeirio hefyd.

Os nad ydych yn barod i siarad â rhywun rydych yn ei adnabod neu'n ynysu, peidiwch â phoeni, gallwch ddefnyddio llinellau cymorth cyfrinachol ac adnoddau ar-lein defnyddiol o hyd. Mae www.dewis.wales yn lle da i ddod o hyd i wasanaethau yn eich ardal. Gweler isod am ddolenni a gwasanaeth eraill defnyddiol a all helpu:

 

Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Person Ifanc Hwb

Fe welwch chwe rhestr chwarae yma i'ch cyfeirio at ystod eang o adnoddau ar-lein i'ch helpu trwy'r cyfnod clo a thu hwnt. Mae pob un o'r rhestrau chwarae'n cynnwys gwefannau hunangymorth, apiau, llinellau cymorth a mwy sydd ar gael i gefnogi'ch iechyd meddwl a'ch lles. https://hwb.gov.wales/repository/discovery/resource/e53adf44-76cb-4635-b6c2-62116bb63a9a/en?_ga=2.151518460.459291157.1604913013-1431377124.1568902089

 

CALM HARM: Ap symudol i helpu pobl yn eu harddegau i wrthsefyll neu reoli'r awydd i hunan-niweidio (Am ddim)

 

 

 

CHILDLINE: www.nspcc.org.uk 0800 1111

HARMLESS: Mae'n cynnig cyngor a gwybodaeth ynghylch pobl ifanc a allai fod yn hunan-niweidio neu'n meddwl am wneud hynny. www.harmless.org.uk

YOUNGMINDS: www.youngminds.org.uk  0808 802 5544

SELF HARM UK: Mae'n cynnig lle ar-lein i siarad a gofyn cwestiynau am bryderon yn eu bywyd. www.selfharm.co.uk

RETHINK MENTAL ILLNESS: www.rethink.org  0300 5000 927

Y Rhwydwaith Hunan-niwed Cenedlaethol: Mae'r NSHN yn fforwm ar-lein sy'n caniatáu i chi siarad â phobl eraill mewn amgylchedd diogel sy'n cael ei reoli.  www.nshn.co.uk

THE MIX: 0808 808 4994

PAPYRUS: Papyrus HOPElineuk 0800 068 41 41 www.papyrus.org.uk

YOUNGMINDS CRISIS MESSENGER: Tecstiwch YM i 85258 i gael cymorth am ddim 24/7  

HEADSPACE: Ap ymwybyddiaeth ofalgar sy'n cynnwys llawer o wahanol raglenni i gefnogi iechyd meddwl.

SANE: Mae Saneline ar gael o 4.30pm tan 10.30pm bob dydd ar gyfer cymorth iechyd meddwl 0300 304 7000

WELLMIND: Datblygwyd yr ap hwn gan y GIG ac mae'n helpu gyda symptomau gorbryder ac iselder. Mae'n ffordd wych o gadw golwg ar eich meddyliau a'ch teimladau.

CATCH THAT THOUGHT: Mae'r ap hwn yn wych i fonitro meddyliau ac emosiynau anodd, pryd rydych chi'n eu profi a ble.

THE STRESS AND ANXIETY COMPANION: Mae'r ap hwn yn annog meddwl yn gadarnhaol trwy ei broses therapi gwybyddol ymddygiadol syml ac mae'n eich helpu i ddeall sbardunau.

THRIVE: Mae'r ap hwn yn eich helpu i gasglu eich meddyliau a deall eich emosiynau.

MEIC: MEIC yw'r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O gael gwybod beth sy'n digwydd yn eich ardal leol i gael cymorth i ddelio â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando hyd yn oed pan fydd neb arall. Ni fyddwn yn eich beirniadu a byddwn yn helpu trwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a'r cymorth y mae arnoch ei angen i newid - https://www.meiccymru.org/

Mind: http://www.mind.org.uk/

Dilynwch ni