Pa mor hir y bydd rhaid i mi aros i gael cymorth gan CAMHS?
Bydd hyn yn dibynnu ar yr amseroedd aros yn eich ardal leol. Mae'r pandemig wedi effeithio ar y rhain ac fe allent fod yn hirach nag arfer. Gallwch gael gwybod pa mor hir y bydd rhaid i chi aros trwy gysylltu â'ch Tîm CAMHS lleol.
Mae'n bwysig cofio y gallwch gael cymorth tra byddwch yn aros am asesiad. Mae llawer o wasanaethau a fydd yn gallu cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth cynnar da i'ch helpu. Mae sefydliadau cymorth yn gweithio'n gyflym i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddarparu eu gwasanaethau ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb.