Gall anghenion cymorth iechyd meddwl llawer o bobl gael eu bodloni trwy eu meddyg teulu, grŵp hunangymorth, neu drwy therapi ar-lein. Ond efallai y bydd angen mwy o gymorth ar rai pobl. Fe allech gael eich atgyfeirio i'r Tîm Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol neu i Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol.
Os cewch eich atgyfeirio i'r naill neu'r llall o'r gwasanaethau hyn, nid yw hynny'n golygu bod eich problemau'n waeth na rhai pobl eraill, nac y bydd yn cymryd mwy o amser i chi wella. Y cyfan mae'n ei olygu yw y gallai fod angen cymorth mwy arbenigol arnoch i'ch helpu i wella.
Mae gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol, gan gynnwys Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, Timau Triniaeth Gartref, y Tîm Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol a gwasanaethau cleifion mewnol, wedi parhau i ddarparu cymorth yn ystod y pandemig COVID-19. Fel arfer, bydd arnoch angen atgyfeiriad gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael y gwasanaethau hyn.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld Cwestiynau Cyffredin ar gyfer pobl sydd eisoes yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl.