Neidio i'r prif gynnwy

A yw amserau aros ar gyfer gwasanaethau wedi cynyddu o ganlyniad i'r pandemig COVID-19?

Disgwylir i'r galw am wasanaethau iechyd meddwl gynyddu'n sylweddol wrth i effaith y pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl pobl ddechrau dod i'r amlwg. O ganlyniad, fe allech orfod aros yn hirach nag arfer i gael cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl arbenigol.

Fodd bynnag, gwneir pob ymdrech i leihau'r amserau aros gan ei bod yn bwysig cael cymorth cyn gynted â phosibl.

Mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud i ofalu am eich iechyd meddwl a'ch lles tra'ch bod yn aros am gymorth mwy arbenigol. Ewch i'n hadran Cwestiynau Cyffredin ar gyfer oedolion sy'n ceisio cymorth iechyd meddwl am y tro cyntaf i gael rhagor o wybodaeth.

Dilynwch ni