Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn dweud nad oes unrhyw risg hysbys o roi'r brechlynnau COVID-19 sydd ar gael ar hyn o bryd i fenywod sy'n bwydo ar y fron ac y gellir cynnig brechiad i fenywod sy'n bwydo ar y fron. Mae diffyg data diogelwch ynghylch menywod sy'n bwydo ar y fron. Mae manteision bwydo ar y fron yn hysbys iawn a dylid ystyried hyn hefyd.
Os ydych yn gymwys ac wedi cael cynnig brechlyn COVID-19 tra byddwch yn bwydo ar y fron, dylech drafod y manteision a'r risgiau o gael y brechlyn gyda'ch gweithiwr gofal iechyd.