Neidio i'r prif gynnwy

Ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2021

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnal ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol rhithiol cyntaf ddydd Iau 29 Gorffennaf, a gwahoddir y cyhoedd a rhanddeiliaid i fynychu. 
 
Yn y digwyddiad hwn cewch glywed mwy am gyflawniadau’r Bwrdd Iechyd yn 2020/21, ynghyd â sut mae wedi delio â’r  pandemig COVID-19 a beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer ei gynlluniau at y dyfodol. 
 
Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni ar Teams a’i ffrydio’n fyw ddydd Iau 29 Gorffennaf rhwng 10am - 11am.  
 
Dywedodd Charles (Jan) Janczewski: “Er bod 2020 yn sicr wedi cyflwyno llawer o heriau i ni, un o fuddiannau annisgwyl y sefyllfa bresennol oedd ein penderfyniad i fabwysiadu technoleg ddigidol a fideo i ymgysylltu â rhanddeiliaid. 
 
“Gan fod y cyfyngiadau symud yn dal i fod ar waith, byddwn yn cynnal ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn rhithiol, a fydd yn ei gwneud yn haws, gobeithio, i bobl ymuno â ni i gael rhagor o wybodaeth am ein profiadau a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.” 
 
Gallwch wylio’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn fyw yma: https://teams.microsoft.com/l/meetup-join/19%3ameeting_N2E4ZDMzYjgtN2ZhNS00MmI5LWJmZmYtOGRkZTQxNGIzNjBl%40thread.v2/0?context=%7b%22Tid%22%3a%22bb5628b8-e328-4082-a856-433c9edc8fae%22%2c%22Oid%22%3a%22eb57eb2e-fdf1-4203-9629-5e253db5e17f%22%2c%22IsBroadcastMeeting%22%3atrue%7d&btype=a&role=a 

Gallwch gyflwyno cwestiwn drwy e-bostio news@wales.nhs.uk erbyn dydd Gwener 16 Gorffennaf ar yr hwyraf, gan roi Cwestiwn i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol fel pwnc.


Gall cyfranogwyr hefyd bostio cwestiynau ar yr adran ‘chat/comments’ ar Teams ar y diwrnod. 

Gallwch weld agenda’r cyfarfod yma.

Dilynwch ni