Neidio i'r prif gynnwy

WalkRounds ar Ddiogelwch Cleifion

Lluniwyd WalkRounds™ yn wreiddiol gan y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI). Maent yn elfen bwysig o fframwaith llywodraethu a sicrwydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Maent yn cysylltu uwch arweinwyr â phobl sy'n gweithio ar y rheng flaen a chleifion/defnyddwyr gwasanaeth sy'n derbyn gofal. 

Pwrpas WalkRounds™ yw dangos ymrwymiad y Bwrdd i adeiladu diwylliant o ddiogelwch a gwelliant.  Maent yn ein helpu i ennill cipolwg i faterion diogelwch cleifion a chyflwyno gwasanaethau, a'u deall, ac i nodi meysydd arfer da i'w rhannu a'u dathlu. Maent yn anffurfiol ac nid ydynt yn para mwy nag awr.

Mae Swyddogion Gweithredol yn partneru ag Aelod Bwrdd Annibynnol. Trefnir i bob pâr ymweld â rhan o'r Bwrdd Iechyd Prifysgol unwaith y mis. Bydd yr ardal sy'n derbyn yr ymweliad yn cael gwybod ymlaen llaw fel y gall baratoi a chodi'i phryderon a rhannu'i llwyddiannau. 

Elfen hanfodol yw'r ddolen adborth.  Mae hon yn arddangos yn weledol bod y Bwrdd wedi gwrando ar staff a bod eu cyfraniad yn bwysig. Mae'n eu hannog nhw i barhau i rannu'u pryderon am ddiogelwch, sy'n hybu diwylliant diogel.  Hefyd, mae'n galluogi'r Bwrdd Iechyd Prifysgol i amlygu tueddiadau a themâu, monitro gweithredoedd a darparu gwybodaeth o WalkRounds blaenorol.

Ar hyn o bryd, mae WalkRounds™ personol wedi'u hatal oherwydd COVID-19. Rydym yn archwilio opsiynau eraill i ailddechrau'r swyddogaeth bwysig hon. 

Mae'r amserlen i'w gweld yma

Themâu allweddol a'r hyn rydym ni'n ei wneud

Meysydd arfer da

Dilynwch ni