Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Tymor Canolig Integredig Caerdydd a'r Fro

Y Cynllun Tymor Canolig Integredig yw'r ddogfen gynllunio allweddol ar gyfer y Bwrdd Iechyd, gan amlinellu'r cerrig milltir a'r camau byddwn yn eu cymryd dros y flwyddyn i'r 3 blynedd nesaf i symud Llunio Dyfodol Ein Lles, sef ein strategaeth ddeng mlynedd, yn ei flaen.

Mae wedi'i seilio ar anghenion iechyd ein poblogaeth, darparu gwasanaethau o ansawdd a sicrhau bod modd cael at wasanaethau yn deg ac yn amserol, ac mae'n amlinellu sut byddwn yn cyflawni ein cenhadaeth, sef Gofalu am Bobl; Cadw Pobl yn Iach, a'n gweledigaeth bod siawns unigolyn o fyw bywyd iach yr un fath lle bynnag y mae'n byw a phwy bynnag ydyw.  


Dilynwch ni